Awgrymiadau Gorau i Gael y Mwyaf Allan o Ddigwyddiadau Rhwydweithio
Gan: Wrenna
Beth yw Digwyddiad Rhwydweithio?
Mae digwyddiad rhwydweithio yn le ble gallwch gwrdd a chysylltu â phobl o'r un anian. Rwy'n ystyried unrhyw beth sy'n dod ag eraill sy'n rhannu diddordeb yn eich maes ynghyd fel cyfle i
Rwydweithio.
Mae llawer o bobl yn dychmygu digwyddiadau rhwydweithio fel cynulliadau corfforaethol brawychus, lle mae pawb yn gwisgo siwtiau, yn dal gwydrau o swigod, ac yn gofalu amdanyn nhw eu hunain yn unig. Ond un o'r pethau gwych am fod yn y sector creadigol yw bod digwyddiadau rhwydweithio yn hamddenol ac yn hwyl. Mae gennych chi'r rhyddid i fynegi pwy ydych chi, ac mae eich brand personol yn rhan o'r hyn sy'n gwneud i chi sefyll allan.
Gallai digwyddiad rhwydweithio fod yn ddigwyddiad a gynhelir gan sefydliad cerddoriaeth (fel Anthem), yn gyfarfod achlysurol a drefnir gan greadigwr arall yn eich maes, neu hyd yn oed yn gig lle allech chi gysylltu â chreadigwyr eraill a hyd yn oed cefnogwyr posibl yn y dorf.
Pam fod Digwyddiadau Rhwydweithio Mor Bwysig?
Does dim byd yn well na chysylltiad dynol. Pan fyddwch chi'n cwrdd â rhywun yn bersonol, maen nhw'n llawer mwy tebygol o'ch cofio chi. Mae'n caniatáu ichi adael argraff bersonol a chael mwy o ddylanwad ar sut rydych chi'n cael eich gweld.
“Mae ceisiadau wyneb yn wyneb yn 34 gwaith fwy llwyddiannus na'r rhai a wneir trwy e-bost.” –
Harvard Business Review
Ystyriwch e fel hyn, oes rhywun rydych chi wedi bod yn ceisio cyrraedd dros e-bost neu gyfryngau cymdeithasol heb lwc? Pan fyddwch chi'n sefyll o flaen rhywun, mae'n llawer anoddach cael eich anwybyddu. Rydych chi'n fwy tebygol o wneud cysylltiad a chael ymateb dilys.
Mae rhwydweithio yn rhoi'r cyfle i chi adeiladu perthnasoedd a chyfeillgarwch go iawn o fewn eich sîn. Efallai eich bod wedi cysylltu â phobl ar-lein, a nawr gallwch chi roi wyneb i'r enw o'r diwedd.
Mae hefyd yn dangos eich bod chi'n troi fyny a chefnogi'r sîn. Mae bod yn bresennol yn bwysig.
Mae cefnogi pobl greadigol eraill ac adeiladu ymdeimlad o gymuned yn bwysig gan fod y diwydiant hwn yn ffynnu ar gefnogaeth a chydweithio cydfuddiannol.
A nid dim ond cysylltu â phobl greadigol eraill yw hyn. Efallai y byddwch chi'n cwrdd â chefnogwyr newydd hefyd. Os ydych chi mewn cyngerdd i artist sydd â sain debyg, mae siawns dda y byddai pobl yn y dorf yn dwlu ar eich cerddoriaeth hefyd. Gall bod yn gyfeillgar a rhannu'r hyn rydych chi'n ei wneud agor drysau a thyfu eich cynulleidfa.
Cofiwch theori’r chwe gradd o wahanu - rydych chi o hyd yn agos at gysylltu ag unrhyw un yn y byd.
Sut alla i ddod o hyd i ddigwyddiadau rhwydweithio yn fy ymyl?
Eventbrite (a chwmnïau digwyddiadau eraill - Billetto, Skiddle, Ticket Tailor, TicketSource) – Rwy'n chwilio'r safleoedd hyn bob mis neu fwy i weld beth sy'n ymddangos. Gallwch chi ganolbwyntio'ch chwiliadau ar ddinas, sector ac ati.
Chwilio Google – Mae rhai cwmnïau'n hysbysebu digwyddiadau trwy eu gwefan, felly defnyddiwch yr un hidlwyr ag uchod ar Google.
Facebook ac Instagram – Cliciwch ar yr adran chwilio a chwiliwch am eich geiriau allweddol
e.e. digwyddiadau rhwydweithio cerddoriaeth yng Nghaerdydd.
Gwefannau sefydliadau cerddoriaeth – Sgroliwch trwy dudalennau digwyddiadau neu gyfleoedd a chofrestrwch i gylchlythyrau i gael y wybodaeth hon wedi'i hanfon yn syth atoch.
Wrth gasglu'r digwyddiadau hyn, crëwch gronfa ddata i storio'r wybodaeth a'i diweddaru'n fisol. Rwy'n argymell defnyddio Excel neu Google Sheets ar gyfer trefnu hawdd. Mae amlygu digwyddiadau a fynychwyd mewn gwyrdd yn eich helpu i gadw ar ben eich cynnydd rhwydweithio.
AWGRYM: Rhowch ddigwyddiadau yn eich calendr ar unwaith i'ch helpu i aros yn drefnus.
Sut i Baratoi ar gyfer Digwyddiad Rhwydweithio
Gall y digwyddiadau rhwydweithio cyntaf fod ychydig yn frawychus, ond bydd yr awgrymiadau hyn yn eich gwneud yn broffesiynol mewn dim o dro.
Awgrymiadau paratoi:
Creu cwestiynau cyflwyniad/torri iâ defnyddiol. Dyma rai syniadau:
- Ydych chi'n gweithio yn y diwydiant creadigol? Pa fath o waith ydych chi'n ei wneud?
- Pa fath o gerddoriaeth ydych chi'n ei fwynhau?
- Ydych chi wedi'ch lleoli o gwmpas yma?
- Ydych chi'n gefnogwr o'r band neu'r artist sy'n perfformio heno?
- Beth ydych chi'n gobeithio ei gael allan o'r digwyddiad hwn?
- Oes gennych chi unrhyw brosiectau cyffrous ar y gweill?
Ymchwiliwch i'r panel neu'r siaradwyr ymlaen llaw i ddod o hyd i dir cyffredin a pharatoi cwestiynau perthnasol. Mae gofyn cwestiynau meddylgar yn ffordd wych o gael eich sylwi a dechrau sgyrsiau ystyrlon.
Gwrandewch ar gerddoriaeth rhai o'r artistiaid cyn y digwyddiad i ddeall eu steil a gweld sut rydych chi'n cysylltu â nhw a'u cynulleidfa. Mae rhannu cariad gwirioneddol at gerddoriaeth yn ei gwneud hi'n haws meithrin perthynas.
Crëwch gardiau busnes i'w gwneud hi'n syml i bobl ddod o hyd i chi a'ch cofio ar ôl y digwyddiad. Byddwch mor greadigol ag y dymunwch gyda sut maen nhw'n edrych.
Paratowch araith elevator cyflym – Brawddeg fer, ddeniadol sy'n crynhoi pwy ydych chi
a beth rydych chi'n ei wneud. Gall fod yn anodd meddwl ar unwaith felly mae cael rhywbeth yn barod yn eich
meddwl yn ei gwneud hi'n hawdd cyflwyno'ch hun yn hyderus. Meddyliwch am gynnwys eich enw, beth rydych chi'n ei wneud, o ble rydych chi'n dod ac efallai hyd yn oed pwy rydych chi'n swnio fel neu beth sy'n eich ysbrydoli.
Mae croeso i chi fod yn greadigol a'i wneud yn unigryw i chi
e.e. “Hei, fy enw i yw Wrenna, dwi'n gantores, cyfansoddwraig indie, alt-pop o Gaerffili. Mae fy
gerddoriaeth yn fath o gymysgedd rhwng lleisiau Birdy a naws Florence and The Machine.”
Gwnewch beth bynnag sy'n gwneud i chi deimlo'n hyderus cyn mynd i mewn – Gallwch chi roi cynnig ar ymarferion anadlu, ystumiau pŵer, a hunan-siarad cadarnhaol.
Cofiwch, mae pawb yna am yr un rheswm - i wneud cysylltiadau, dysgu rhywbeth newydd, a mwynhau cerddoriaeth gwych. Felly o’r funud gyntaf, mae gennych bethau’n gyffredin yn barod. Gall unrhyw beth fod yn gyfle rhwydweithio, ac os ydych wedi dilyn y camau yma, mi fyddech yn barod a’n rhagweithiol phryd bynnag byddech yn cerdded i mewn i’r ystafell.
Pob hwyl i chi!
Wrenna