Sut I Drefnu A Chynnal Gig Lleol Yn Llwyddiannus (Rhan 2)
Gan: Ed Townend, Venue Administrator at the Memo Arts Centre
Rydyn ni'n gwybod nad yw pob gig am fod yn addas i bob lleoliad, felly cymerwch amser i ystyried pa leoliad allai fod orau i chi a'ch gig. Edrychwch ar ba fath o ddigwyddiadau y mae’r lleoliad yn eu cynnal yn rheolaidd. Mae llawer o leoliadau eraill yn cynnal genres amrywiol ac mae rhai yn cadw at un genre o gerddoriaeth yn unig.
- PEIDIWCH â digalonni os yw lleoliad yn dweud na. Efallai y gallan nhw roi syniad i chi o ba fath o bobl sy’n mynychu, a gallai hyn eich helpu chi o ran deall a yw eich gig yn briodol.
- COFIWCH holi beth fyddwch chi'n ei gael o’r lleoliad. Popeth o'r hyn y gallan nhw ei gynnig i chi (staff, marchnata'r digwyddiad ac ati) i'r hyn y gall y lleoliad ei wneud yn dechnegol. A oes ganddyn nhw eu system sain a’u peiriannydd sain eu hunain fel rhan o’r pecyn, neu a fyddai angen i chi drefnu hynny eich hun?
- PEIDIWCH ag anghofio bod lleoliadau yn costio arian i'w llogi! Mynnwch gael gwybod yr holl gostau ymlaen llaw cyn i chi feddwl am gadarnhau gig. Bydd lleoliadau yn aml yn codi tâl arnoch am logi ystafell, peiriannydd sain, staff swyddfa docynnau, llogi offer… gall y cyfanswm fod yn fwy na’r disgwyl. A chofiwch y gallai fod yn rhaid i chi dalu ffioedd PRS a TAW mewn rhai lleoliadau hefyd.
- COFIWCH lunio rhestr wirio o'r hyn sydd ei angen arnoch chi a lle bo'n bosibl edrychwch ar gapasiti, hygyrchedd, offer ac agweddau technegol y lleoliad. Hyd yn oed eu henw da. Mae’n bwysig cael gwybod a yw lleoliad yn addas i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn, ac efallai y byddwch am holi am fannau tawel ar gyfer unrhyw rai sy’n niwrowahanol hefyd oherwydd dylai cerddoriaeth fod yn hygyrch i bawb.
- PEIDIWCH â chael eich dal gan gostau annisgwyl! Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cael yr holl wybodaeth am gostau ymlaen llaw, hyd yn oed cyn i chi feddwl am ba ddyddiad yr hoffech chi drefnu’r gig. Efallai y bydd gan rai lleoliadau y wybodaeth hon ar gael ar eu gwefan, ond efallai y bydd angen i chi gysylltu â rhai yn gyntaf.
- PEIDIWCH â chymryd yn ganiataol y gall pob lleoliad ymdrin ag anghenion eich digwyddiad. Efallai na fydd bar roc yn gallu darparu ar gyfer pianydd clasurol ac ni fydd bar coffi yn gallu darparu ar gyfer act jazz seicedelig o ddeuddeg aelod. Gwnewch yn siŵr fod gallu technegol a gofodol y lleoliad yn addas i’ch lein-yp.
- COFIWCH ystyried maint y gynulleidfa rydych chi’n ei disgwyl. Byddwch yn realistig. Er bod pawb yn breuddwydio am dorf fawr gan werthu pob tocyn, mae archebu lleoliad â lle i 1,000 ar gyfer gig gyntaf yn risg fawr, a gallai ceisio gwthio pawb i mewn i leoliad bach fod yn broblemus. Edrychwch ar faint y lleoliadau y mae eich artistiaid wedi chwarae ynddyn nhw o'r blaen a defnyddiwch hwn fel canllaw.
- PEIDIWCH ag anghofio holi o gwmpas am argymhellion. Holwch artistiaid, hyrwyddwyr, ffans cerddoriaeth a phobl rydych chi'n ymddiried ynddyn nhw am ba leoliadau allai fod orau i weithio gyda nhw. Efallai y bydd ganddyn nhw brofiadau gwych neu straeon arswydus i'w rhannu. Gofynnwch am fanylion: Gyda phwy roedden nhw'n gweithio, pryd wnaethon nhw chwarae, a beth wnaeth eu profiad yn un da neu ddrwg? Cofiwch, gall rhai safbwyntiau fod yn unllygeidiog, felly casglwch ystod eang o adborth.