Amdanom Ni
Mae Porth Anthem yn adnodd sy’n archwilio diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru a grëwyd gan bobl ifanc greadigol ar gyfer pobl ifanc Cymru.
Tîm Porth Anthem
Aisha Kigwalilo: Rheolwr Prosiect | Blank Face: Cynghorydd Technoleg | Webber Design: Tîm Gwefan |
Tori Sillman: Rheolwr Cyfathrebu | Rhian Hutchings: Prif Weithredwr Anthem
Gateway Makers a Partneriaid
Mae ystod eang o bobl a sefydliadau o bob rhan o’r sector cerddoriaeth Gymraeg yn cyfrannu at y Gofod Gwybodaeth.
Ein Cyllidwyr
Ariennir Porth yr Anthem gan Lywodraeth Cymru
Am Anthem
Gweledigaeth Anthem yw Cymru lle y gall cerddoriaeth rymuso pob bywyd ifanc. Credwn fod cerddoriaeth yn rym creadigol nerthol i bobl ifanc sy’n ysgogi hunanfynegiant, datblygiad personol a llesiant. Bydd Anthem yn galluogi mynediad i gerddoriaeth, yn creu cyfleoedd ar draws genres a chymunedau, ac yn meithrin talent amrywiol i gymryd y camau nesaf tuag at yrfaoedd cerddorol. Mae Anthem yn gatalydd ar gyfer cerddoriaeth ieuenctid yng Nghymru, ac yn ariannu gwaith a fydd yn creu newid, yn creu cysylltiadau i ehangu gwaith partneriaeth, ac yn galluogi arferion gorau i ffynnu.
Dysgwch fwy am Anthem ar ein gwefan: www.anthem.wales/cy