Simon Parton
Gyda phrofiad mewn amrywiaeth o brosiectau ar draws cerddoriaeth yng Nghymru, mae Simon wedi gweithio gyda gwyliau, labeli recordiau, cynlluniau datblygu artistiaid a sefydliadau gan gynnwys FOCUS Wales, Libertino, Beacons Cymru, Forté, Ty Cerdd, BBC Cymru a mwy. Mae’n swyddog prosiect gyda BBC Horizons / Gorwelion, ac mae hefyd wedi cyd-sefydlu’r asiantaeth artistiaid cerdd newydd BLOCS.