Polisi Preifatrwydd

Mae’r hysbysiad hwn yn berthnasol i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol gan Anthem Cronfa Gerdd Cymru, fel Rheolydd a Phrosesydd Data. Cymrwch ychydig amser i ddarllen ein Polisi Preifatrwydd, sy’n cydymffurfio â GDPR y DU, fel eich bod yn deall eich dewisiadau a’r hawliau sydd gennych fel testun data. Gallai’r polisi hwn newid o bryd i’w gilydd felly mae’n syniad da dychwelyd a darllen drwyddo eto, o bryd i’w gilydd.

Mae Anthem wedi ymrwymo i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol ac yn cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data gyfredol gan gynnwys GDPR y DU. Ni fyddwn yn gwerthu, dosbarthu na rhyddhau eich gwybodaeth bersonol i drydydd partïon oni bai bod gennym eich caniatâd neu bod gofyn i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith.

Rydym yn ystyried preifatrwydd a hawliau pobl yn ddifrifol iawn. Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth a gasglwn amdanoch yn gyfreithlon, yn unol â Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data yn y DU (GDPR y DU) a Deddf Diogelu Data 2018. Gallwch wneud cais am gopi o Bolisi Diogelu Data Anthem gan y Swyddog Diogelu Data (manylion isod).

Ein manylion cyswllt

Enw: Anthem. Cronfa Gerdd Cymru
Cyfeiriad: Plas Bute, Caerdydd, CF10 5AL
Swyddog Diogelu Data: Rhian Hutchings (Prif Weithredwr)
Rhif Ffôn: +44 (0)7966450299
E-bost: Rhian Hutchings

Y math o wybodaeth bersonol rydym yn ei chasglu

  • Yn bresennol, rydym yn casglu a phrosesu’r wybodaeth ganlynol:
  • Dynodwyr personol (enw, teitl, dyddiad geni);
  • Manylion cyswllt, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i gyfeiriad e-bost, rhif ffôn, cyfeiriad cartref a/neu waith;
  • Statws cyflogaeth, arbenigeddau;

Sut cawn yr wybodaeth bersonol a pham ei bod gennym

Mae’r rhan fwyaf o’r wybodaeth bersonol a broseswn yn cael ei darparu inni yn uniongyrchol gennych chi am un o’r rhesymau canlynol:

  • Fel rhan o’r broses gofrestru ar gyfer ein e-gylchlythyrau;
  • Pan fyddwch yn cysylltu â ni’n uniongyrchol i ymholi am ein gwasanaethau;
  • Yn ystod digwyddiadau rhwydweithio, cyfarfodydd a phrosiectau wyneb yn wyneb;
  • Fel rhan o ymchwil i fapio’r sector;

Defnyddiwn yr wybodaeth a roesoch inni at y dibenion canlynol:

  • At ddiben cyfreithlon cysylltu â chi (er enghraifft, os ydych wedi tanysgrifio i’n e-newyddion neu os ydym yn gweithio gyda chi);
  • Anfon ein e-gylchlythyrau i chi;
  • Deall bylchau ac anghenion yn y sector;

Gallem rannu’r wybodaeth hon â’n cyfrifwyr a’n harchwilwyr penodedig at ddibenion ariannol os ydych yn gweithio gyda ni. Ni fyddwn yn rhentu na chyfnewid rhestrau e-bost ag unrhyw sefydliadau na busnesau eraill.

Defnyddiwn MailChimp i gasglu a storio gwybodaeth gyswllt. Drwy hyn, rydym hefyd yn casglu ystadegau’n ymwneud ag agor e-byst a chliciau gan ddefnyddio technolegau safonol y diwydiant i’n helpu i fonitro a gwella ein e-gylchlythyr.

O dan GDPR y DU, y sail gyfreithlon yr ydym yn dibynnu arni i brosesu’r wybodaeth hon yw: Eich cydsyniad.

Mae modd i chi dynnu eich cydsyniad yn ôl ar unrhyw adeg. Gallwch wneud hyn drwy ddad-danysgrifio o’n rhestr bostio, gan ddefnyddio’r botwm ‘dad-danysgrifio’ ar waelod yr e-bost neu’r e-gylchlythyr. Gallwch hefyd dynnu eich cydsyniad yn ôl drwy gysylltu â’r Swyddog Diogelu Data yn Anthem (manylion cyswllt uchod).

Mae modd i chi hefyd wneud cais am fanylion yr wybodaeth bersonol y mae Anthem yn ei dal amdanoch. Os hoffech gopi o’r wybodaeth sy’n cael ei dal amdanoch, mae modd i chi wneud Cais am Fynediad at Ddata gan y Testun drwy anfon e-bost i ni i’r cyfeiriad a roddir uchod. I gael mwy o wybodaeth am hyn, darllenwch y cyngor perthnasol gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth fan yma.

Gwybodaeth arall a gasglwn drwy’r wefan a pham

Rydym yn casglu’r wybodaeth ganlynol ar gyfer y wefan hon:

  • Eich taith drwy gynnwys y wefan;
  • Gwybodaeth arall a ddarperwch sy’n berthnasol i unrhyw gais am gymorth ar y wefan.

Mae’r wybodaeth yma’n ofynnol gennym er mwyn:

  • Eich galluogi i gael mynediad i gynnwys a swyddogaethau Anthem;
  • Gwella ein gwefan a’n gwasanaethau;
  • Caniatáu i aelod o’n tîm gysylltu â chi i ddatrys unrhyw gais a wnewch am gymorth.

Oni bai eich bod wedi nodi’n benodol eich bod yn fodlon i’r wybodaeth rydym wedi ei chasglu gennych drwy fapio gael ei rhannu’n gyhoeddus, ni fyddwn yn rhannu gwybodaeth amdanoch ag unrhyw barti arall.

Bydd gwybodaeth am eich taith drwy gynnwys y wefan yn cael ei rhannu â gwesteiwr ein gwefan, sef yn bresennol: Squarespace.

Diogelwch

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod eich gwybodaeth yn ddiogel. Er mwyn atal mynediad neu ddatgeliad heb ei awdurdodi, rydym wedi rhoi gweithdrefnau ffisegol, electronig a rheoli yn eu lle i ddiogelu a sicrhau’r wybodaeth a gasglwn, ac mae manylion am y rhain wedi’u cynnwys yn ein polisïau Diogelu Data a Dargadw Data. Mae modd i chi wneud cais am y rhain gan y Swyddog Diogelu Data.

Sut rydym yn defnyddio cwcis

Ffeil fach yw cwci sy’n gofyn caniatâd i gael ei rhoi ar yriant caled eich cyfrifiadur. Ar ôl i chi gytuno, caiff y ffeil ei hychwanegu a bydd y cwci’n helpu i ddadansoddi traffig y we neu wybod pryd rydych yn ymweld â thudalen benodol ar ein gwefan. Nid yw cwci mewn unrhyw fodd yn rhoi inni fynediad i’ch cyfrifiadur nag unrhyw wybodaeth amdanoch, ac eithrio’r data y dewiswch rannu â ni.

Fel y rhan fwyaf o ddarparwyr gwefannau, gallai Anthem ddefnyddio cwcis i’n galluogi i greu cyswllt rhyngoch chi a’r wybodaeth a ddarparoch i’n gwefan a thrwy hynny ddarparu cynnwys wedi’i deilwra’n bersonol fel y gallwn roi gwell profiad i chi pan ddychwelwch. Mae rhan fwyaf o borwyr y we yn derbyn cwcis yn awtomatig, er y gallwch ddewis peidio.

Mae cyfeiriad IP yn rhif a all adnabod cyfrifiadur penodol (neu ddyfais rhwydwaith arall ar y rhyngrwyd). Gallem ddefnyddio meddalwedd dadansoddi i edrych ar gyfeiriadau IP a chwcis at ddiben cyfoethogi eich profiad fel defnyddiwr. Ni chaiff yr wybodaeth hon ei defnyddio i ddatblygu proffil personol ohonoch a chaiff unrhyw ffeiliau cofnodi eu gwaredu’n rheolaidd.

Pan fydd rhywun yn ymweld ag Anthem.wales rydym yn defnyddio gwasanaeth trydydd parti, Google Analytics, i gasglu gwybodaeth gofnodi safonol y rhyngrwyd a manylion am batrymau ymwelwyr. Gwnawn hyn i ddarganfod pethau fel nifer yr ymwelwyr i amryw rannau’r wefan. Caiff yr wybodaeth hon ei phrosesu’n unig mewn ffordd na fydd yn adnabod unrhyw un. Ni wnawn unrhyw ymgais i ddarganfod pwy yw’r sawl sy’n ymweld â’n gwefan, ac ni chaniatawn i Google wneud hynny.

Mae cwcis yn gwneud llawer o wahanol swyddogaethau, fel caniatáu ichi lywio rhwng tudalennau’n effeithlon, cofio eich dewisiadau, a gwella profiad y defnyddiwr yn gyffredinol. Mae mwy o wybodaeth am gwcis fan yma www.allaboutcookies.org a fan yma www.youronlinechoices.eu.

Dolenni i wefannau

Gallai ein gwefan gynnwys dolenni i wefannau eraill. Nid ydym yn gyfrifol am arferion preifatrwydd y gwefannau yma a dylech ddarllen eu polisïau preifatrwydd eu hunain. Mae’r polisi preifatrwydd sydd wedi’i ddisgrifio fan yma yn berthnasol yn unig i ddata personol a gesglir gan Anthem.

Sut rydym yn storio eich gwybodaeth bersonol

Caiff eich gwybodaeth ei storio’n ddiogel ar blatfform cwmwl wedi’i amgryptio ac ar ddyfais storio cyfryngau symudadwy wedi’i hamgryptio.

Byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol hyd nes eich bod yn dad-danysgrifio o’n e-gylchlythyrau neu’n gofyn i’ch gwybodaeth gael ei ddileu o’n rhestrau postio a/neu gronfa ddata. Byddwn wedyn yn gwaredu eich gwybodaeth yn ddiogel, gan sicrhau nad eir yn groes i bolisïau Diogelu Data a Dargadw Data Anthem.

Eich hawliau mewn perthynas â diogelu data

Y mae er ein pennaf les i ddiogelu eich hawliau fel ein cwsmer, felly hoffem i chi gael dealltwriaeth glir o’r hyn sy’n digwydd i’ch data personol unwaith y byddwn wedi ei gasglu. Mae’r rhestr ganlynol yn esbonio eich hawliau fel testun data o dan Reoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data yn y DU:

  • Mae gennych yr hawl i gael gwybod o’r hyn a wnawn â’ch data a gwybod pa ddiben sydd i’w gasglu a’i brosesu.
  • Eich hawl i fynediad. Mae gennych yr hawl i fynediad at y data personol a gwybodaeth ychwanegol yr ydym yn eu dal amdanoch fel eich bod yn ymwybodol o gyfreithlondeb y prosesu, a bod modd i chi ei wirio. Gallwch dderbyn yr wybodaeth ganlynol: a) cadarnhad bod eich data yn cael ei brosesu a b) mynediad i’ch data personol. Byddwn yn darparu’r data yma o fewn un mis i dderbyn y cais a hynny am ddim.
  • Eich hawl i gywiro. Mae gennych yr hawl i ofyn inni gywiro unrhyw wybodaeth bersonol y teimlwch sy’n anghywir neu’n anghyflawn.
  • Eich hawl i ddileu. Mae gennych yr hawl i ofyn inni ddileu neu waredu eich data personol lle nad oes rheswm anorfod i barhau i’w brosesu, er mai o dan amgylchiadau penodol yn unig y gellir gwneud hyn. Mae mwy o wybodaeth ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.
  • Eich hawl i wrthwynebu’r prosesu. Mae gennych yr hawl i wrthwynebu i’ch gwybodaeth bersonol gael ei phrosesu o dan amgylchiadau penodol.
  • Eich hawl i gyfyngu ar brosesu. Mae gennych yr hawl i gyfyngu ar brosesu data, er mai o dan amgylchiadau penodol yn unig y gellir gwneud hyn. Mae mwy o wybodaeth ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth fan yma.
  • Eich hawl i gludadwyedd data. Mae gennych yr hawl i symud, copïo neu drosglwyddo eich data personol yn hawdd o un amgylchedd TG i un arall mewn ffordd ddiogel, heb rwystr i ddefnyddioldeb. Yr enw cyffredin ar hyn yw “cludadwyedd data”. Byddwn yn darparu hyn mewn ffurf strwythuredig, gyffredin ei defnydd, y gall peiriant ei darllen, a hynny am ddim, a byddwn yn ei drosglwyddo i chi mewn un mis ar ôl y cais.

Nid oes gofyn i chi dalu unrhyw dâl am ymarfer eich hawliau. Os gwnewch unrhyw gais, mae gennym un mis i ymateb i chi. Cysylltwch â Swyddog Diogelu Data Anthem, Rhian Hutchings (Prif Weithredwr) ar rhian.hutchings@anthem.wales, os ydych yn dymuno gwneud cais.

Sut i wneud cwyn

Os oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn â’n defnydd o’ch gwybodaeth bersonol, gallwch wneud cwyn i ni fan yma:

Rhian Hutchings (Prif Weithredwr), Swyddog Diogelu Data
Anthem. Cronfa Gerdd Cymru
Plas Bute, Caerdydd, CF10 5AL
+44 (0)7966450299

Ebost: Rhian Hutchings

Gallwch hefyd wneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth os ydych yn anhapus â sut rydym wedi defnyddio eich data.

Dyma gyfeiriad Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:

Information Commissioner’s Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Rhif llinell gymorth: 0303 123 1113
Gwefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth: https://www.ico.org.uk