Awgrymiadau Da am Gysylltu â Blogiau Cerddoriaeth
Gan: Aled Thomas, Beast PR
Ers dros bum mlynedd ar hugain, mae Aled Thomas wedi dal amrywiaeth o rolau yn y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru; o weithio fel DJ/MC a hyrwyddwr digwyddiadau, i berfformio ar lwyfan fel prif leisydd / gitarydd ar gyfer sawl act yn Ne Cymru. Mae wedi cadw trefn ar recordiau mewn siop recordiau, wedi golygu ei flog cerddoriaeth ei hun, ac wedi mentora bandiau ac artistiaid di-ri.
Ac yntau bellach yn uwch swyddog cyhoeddusrwydd i Beast PR ac yn rheolwr band, roedd am rannu rhai o'i awgrymiadau da wrth gysylltu â blogiau cerddoriaeth i helpu i wneud yn siŵr eich bod chi a'ch cyflwyniad yn dal sylw.
- Dechreuwch trwy lunio rhestr o flogiau cerddoriaeth ar sail y genre penodol o gerddoriaeth rydych chi'n ei chwarae. Bydd angen i chi wneud cryn dipyn o bori ar-lein i ddod o hyd i fanylion cyswllt awduron a golygyddion ymhlith y staff y mae eu hoffterau cerddorol yn cyd-fynd â'r gerddoriaeth rydych chi'n ei chreu.
- Ymchwiliwch a dilynwch ganllawiau cyflwyno pob blog! Cofiwch ei bod hi bob amser yn well canolbwyntio ar gysylltu â llond llaw o flogiau penodol nag anfon e-bost amhersonol at gannoedd.
- Wrth baratoi eich pecyn i'r wasg gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys bywgraffiad wedi'i ysgrifennu'n dda, datganiad i'r wasg sy'n cynnwys gwybodaeth am y gerddoriaeth newydd rydych chi'n ei hyrwyddo, dolenni i'ch cyfrifon yn y cyfryngau cymdeithasol, a ffordd effeithiol i’r derbynwyr lawrlwytho eich cerddoriaeth mewn fformat WAV/MP3.
- Defnyddiwch wasanaethau storio cwmwl am ddim fel Dropbox neu WeTransfer i anfon eich cerddoriaeth, neu os oes gennych chi gyllideb fach, rhowch gynnig ar wasanaeth rhannu a hyrwyddo fel Haulix.
- Peth pwysig arall i'w gael yn eich EPK (pecyn electronig i’r wasg) yw lluniau i'r wasg. Bydd y rhain yn eich helpu i ddal sylw a chefnogi eich cerddoriaeth newydd yn weledol. Gwnewch yn siŵr bod eich lluniau i'r wasg y gorau y gallwch chi eu darparu – eglur iawn, yn ddelfrydol ar ffurf portread a thirlun – oherwydd mae'n debygol y bydd rhai o'r blogiau a'r gwefannau y byddwch yn cysylltu â nhw yn derbyn cannoedd o e-byst cystadleuol bob wythnos.
- Os yw’n bosibl, mae'n werth prynu cyfeiriad e-bost “.com” neu “.co.uk” i wneud i’ch ymdrechion edrych yn fwy dilys. Anfonwch eich gohebiaeth bersonol o'r cyfeiriad e-bost hwn bob amser gan y bydd gennych chi well siawns o gyrraedd mewnflwch y blog, heb i’r e-bost gael ei ddal gan hidlydd sbam.
- Dylai un aelod o'ch band fod yn gyfrifol am e-byst a bod yn brif bwynt cyswllt.
- Crëwch dempled o e-bost syml sy'n edrych yn dda ac yn hawdd i bobl sydd heb lawer o amser i’w ddarllen. Po fwyaf proffesiynol ydych chi wrth eich cyflwyno eich hun, y mwyaf o siawns fydd gennych chi o ddal sylw pobl. Felly, mireiniwch yr e-bost o gyflwyniad i ddangos iddyn nhw eich bod chi wedi gwneud eich gwaith cartref.
- Peidiwch ag ofni bod yn bersonol lle bynnag y bo modd. Cyfeiriwch at y derbynwyr wrth eu henwau cyntaf. Bydd hyn yn eich helpu i greu cysylltiad ac mae gymaint yn fwy effeithiol na dechrau e-bost gyda, “Hei, rwy wrth fy modd â’ch blog ac mi ddylech roi sylw i ni a’n cerddoriaeth!” Mae golygyddion ac awduron yn graff iawn ac fe allan nhw sylwi’n sydyn ar y sawl sydd heb wneud eu gwaith ymchwil. Byddwch yn gryno ac i'r pwynt, ac yn bennaf oll byddwch yn amyneddgar.
- Efallai y gallech ystyried defnyddio platfform cyflwyno cerddoriaeth sydd ag enw da, fel SubmitHub neu Musosoup. Gall y platfformau hyn eich helpu i gael sylw ychwanegol i’ch cerddoriaeth newydd wrth i chi aros i ganlyniadau eich ymdrechion “organig” eich hun gael eu cyhoeddi.