Golwg Ar Reoli Artistiaid
Gan: Simon Parton
Fel llawer o bethau rydw i'n eu gwneud ac rydw i wedi'u gwneud wrth weithio ym myd cerddoriaeth, fe wnes i ganfod fy hun ym maes rheoli artistiaid heb fod gen i unrhyw fwriad bod yn rheolwr. Roedd hyn yn golygu fy mod i’n aml yn dysgu'r ffordd anodd wrth i mi gychwyn ar y daith. Gyda hyn mewn golwg, roeddwn i'n meddwl y byddai'n ddefnyddiol i mi lunio canllaw bras ac ambell awgrym i unrhyw un sy’n meddwl am weithio ym myd rheoli artistiaid.
Ar y pwynt yma, mae’n werth dweud nad ydw i wedi dilyn unrhyw gwrs “rheoli” penodol nac wedi darllen unrhyw beth ar “sut i fod yn rheolwr” – ond dwi’n meddwl mai dyna sy’n hyfryd am y rôl. Fe wnes i ei theilwra yn ôl fy nghryfderau a'r artistiaid roeddwn i'n gweithio gyda nhw.
“DYDI’R FFAITH NAD YDYCH CHI YN Y BAND DDIM YN GOLYGU NAD YDYCH CHI YN Y BAND”
Dewey Finn aka Ned Schneebly (School of Rock)
Dyma oedd fy man cychwyn, a rhywbeth y mae gwir angen i chi ei ystyried os ydych chi’n meddwl am fod yn rheolwr artistiaid. Yn enwedig os ydych chi'n dechrau gydag artist llawr gwlad neu rywun sydd, fel chi, ar gam cymharol gynnar yn eu gyrfa, mae angen i chi fod yn barod am gymaint o waith caled â'r artistiaid eu hunain.
Yn lle ymarferion hir a sesiynau ysgrifennu caneuon, byddwch yn anfon e-byst, cynllunio strategaeth, creu cynlluniau marchnata, rhwydweithio ac ati... yn aml (ar y camau cynnar) heb fawr ddim budd. Yn aml, pan na fydd prosiectau ac artistiaid yn creu unrhyw elw, fe welwch chi eich bod chi’n neilltuo llawer o amser heb gael eich talu - dyna realiti anodd y gwaith yma.
Fel y mae’r rhan fwyaf o artistiaid yn ei brofi o bryd i’w gilydd, fe fyddwch chi’n cwestiynu pam ydych chi’n gwneud yr holl beth cerddoriaeth yma - sy’n dod â ni at fy mhrif bwynt nesaf (a fydd, gobeithio, yn golygu nad ydw i’n codi gormod o ofn arnoch chi!)
MAE CRED YN Y GERDDORIAETH A'R ARTISTIAID RYDYCH CHI'N GWEITHIO GYDA NHW YN HOLLBWYSIG.
Mae'n rhaid i chi ymroi’n llawn i’r gerddoriaeth y mae eich artist yn ei chreu a hefyd y personoliaethau a'r cymeriadau o fewn yr artist/band. Mae'n ymwneud â fy nghyfeiriad at School of Rock, ond mae mor bwysig. Os nad ydych chi'n cefnogi'r artist yn llawn yna byddwch chi'n siŵr o golli’r frwydr. Yn y pen draw, dylai rheoli, fel menter, fod yn gymaint o hwyl â bod yn y band, felly mae'n rhaid i chi fod yn cefnogi'r prosiect ac ymroi’n llawn.
Mae'r gred hon hefyd yn dod gydag amser. Mae artistiaid dwi wedi cwrdd â nhw am y tro cyntaf mewn sioeau wedi gofyn i mi a ydw i’n fodlon eu rheoli. Efallai fy mod i’n hoff iawn o'u cerddoriaeth, efallai eu bod nhw’n denu cynulleidfaoedd mawr i’w sioeau, efallai fod niferoedd mawr yn ffrydio eu cerddoriaeth, ac efallai eu bod nhw’n cael cynnig cyfleoedd mawr, ond os nad ydw i’n adnabod rhywun fe allai fod yn drychinebus yn y pen draw. Dewch i adnabod eich artistiaid. Gweithiwch gyda phobl rydych chi'n ymddiried ynddyn nhw. Gweithiwch gyda rhywun rydych chi'n gwybod na fyddan nhw’n eich gwneud chi’n wallgof. Datblygwch berthynas cyn ymrwymo i unrhyw fenter fusnes.
CYNLLUNIWCH YMLAEN LLAW. MAE STRATEGAETH YN ALLWEDDOL. DIFFINIWCH LWYDDIANT.
Mae hyn yn rhywbeth wnes i ei ddysgu ar hyd y daith wrth weithio yn y diwydiant cerddoriaeth yn gyffredinol - pwysigrwydd cynllunio, pwysigrwydd strategaeth a diffinio llwyddiant rhwng artistiaid, aelodau'r band (os ydych chi’n gweithio gyda'r band) a'ch tîm chi.
Pan oeddwn i'n creu cerddoriaeth ac mewn bandiau, unwaith roeddwn i wedi creu’r gerddoriaeth, y gwaith celf, y fideo ac ati… (ac yn naturiol yn credu ei fod yn mynd i newid y byd) roeddwn i ar dân i’w rhyddhau ar unwaith ac aros i’r holl gyfleoedd lifo i mewn. Dydi hyn byth yn digwydd. Mae cynlluniau ar gyfer POPETH (nid dim ond rhyddhau cerddoriaeth) mor bwysig ac yn siapio'r ffordd rydych chi'n gweithio gyda'ch artistiaid.
Rwy'n gweld bod llunio strategaeth 3 blynedd gyda phawb sy'n ymwneud â'r prosiect yn ddefnyddiol iawn. Fel arfer rydw i’n rhoi cod lliw ar gyfer dyddiadau / pethau allweddol (digwyddiadau byw, gwyliau, cynlluniau rhyddhau, teithiau, amser stiwdio, sesiynau cyfansoddi ac ati…) mewn 3 adran:
Cynlluniau wedi'u cadarnhau - pethau sy'n bendant yn digwydd
Cynlluniau tebygol - pethau sydd ddim yn bendant, ond yn sicr o fewn cyrraedd
Cynlluniau uchelgais - gwyliau, cynlluniau ar gyfer albwm, teithiau, pethau y byddech chi fel prosiect wrth eich bodd yn eu cyflawni.
Mae'r drydedd elfen (cynlluniau uchelgais) yn bwysig iawn, am ei bod yn egluro'r hyn y mae pawb eisiau ei gyflawni a'r hyn sy’n diffinio “llwyddiant”. Rydw i wedi gweld artistiaid a bandiau mewn sefyllfaoedd lletchwith pan fydd pethau fel teithiau neu dripiau rhyngwladol yn cael eu cynnig ac mae'n rhaid eu gwrthod am nad yw pawb yn gallu ymrwymo 100%.
Fel rheolwr, bydd yn rhaid i chi hefyd ymdrin â “methiannau” neu bethau sydd ddim yn mynd yn hollol yn ôl y bwriad, felly mae hefyd yn bwysig iawn tawelu meddwl eich artistiaid a’u hatgoffa pam rydych chi i gyd yn gweithio tuag at yr un nod a bod lwc yn ffactor mawr ym myd cerddoriaeth.
AROS YN DREFNUS
Yr elfen bwysicaf o reoli yn fy marn i yw bod yn drefnus. Cadwch drefn ar e-byst, cadwch bob ffolder ar storfa ffeiliau cwmwl (e.e. Dropbox / Google Drive) fel y gallwch chi roi dolenni’n hawdd i hyrwyddwyr, gwyliau a phersonél eraill y diwydiant. Gall / dylai hyn gynnwys pecynnau electronig i'r wasg, lluniau i'r wasg, fideos cerddoriaeth, dolenni, bywgraffiadau, manylebau technegol.
Mae aros yn drefnus hefyd yn gysylltiedig â'r “cynllun” sydd gennych chi ar waith. Cyfeiriwch yn ôl ato’n rheolaidd, diweddarwch y cynllun wrth fynd ymlaen (bydd y nodau’n symud yn gyson) a chadwch mewn cysylltiad â'ch artistiaid. Mae cyfarfodydd rheolaidd yn bendant yn helpu ac mae cadw sianeli cyfathrebu ar agor gyda phawb sy'n cymryd rhan yn bwysig iawn. Os ydych chi'n gweithio gyda band (lle mae pob aelod wedi ymrwymo cymaint â'i gilydd), rhowch yr un wybodaeth i bawb yn gyson - peidiwch â dewis un aelod i gyfathrebu â nhw.
Mae’n ystrydeb bod artistiaid yn ddi-drefn (rwy’n gorfod anfon negeseuon DM i rai ar instagram mor aml i ddweud "hei, ges di fy e-bost?") - felly byddwch yn barod i chwarae rôl y prif drefnydd yn llawn a mynd amdani.
EWCH ATI I DEILWRA EICH RÔL A DEFNYDDIO EICH CREADIGRWYDD EICH HUN
Un peth (ac efallai y bydd llawer o reolwyr artistiaid profiadol yn anghytuno â hyn) yw y gallwch chi daflu'r llyfr rheolau i’r bin a gweithio yn eich ffordd eich hun fel rheolwr artistiaid. Defnyddiwch eich sgiliau a'ch creadigrwydd eich hun, hyd yn oed os nad ydyn nhw’n rhan o rôl arferol rheolwr cerddoriaeth. Dyna wnes i!
Rydw i, er enghraifft, yn dda ar ddylunio graffeg, golygu fideos, rheoli digwyddiadau a marchnata ar y cyfryngau cymdeithasol. Yn achos yr artistiaid rydw i wedi gweithio gyda nhw, mae hyn yn golygu y gallwn i greu asedau, golygu fideos a thorchi llewys fel yna ar ben popeth arall. Mae'r cyfan yn cyfrannu at y prosiect ac os oes gwaith y gallwch ei wneud heb orfod gwario arian a defnyddio rhywun o’r tu allan, mae'n sicr yn beth cadarnhaol!
Weithiau ni fydd hyn yn bosibl, ac allwch chi ddim â gwneud popeth. Dyma pryd mae dechrau ffurfio “tîm” o amgylch eich artist yn bwysig…
FFURFIO “TÎM”
Roedd wastad ar fy meddwl tybed sut beth yw “tîm” y tu ôl i artist a sut mae'n gweithio. I mi, yn ei hanfod, mae'n grŵp o bobl/busnesau y byddwch chi’n troi atyn nhw sydd yn ymroi’n llawn i’r band cymaint â chi. Gall fod yn fodiwlaidd, gall newid, a gall fod yn hyblyg, i gyd-fynd â'r hyn sydd gennych chi ar y gweill.
Ar y camau cynnar, nid yw'n bwysig iawn bod y tîm yma yn ei le, oherwydd yn aml iawn gallwch chi wneud y gwaith yma eich hun fel rheolwr. Fel arall, gallwch ddefnyddio sgiliau a doniau ffrindiau / pobl o'ch cwmpas. Os ydych chi'n adnabod rhywun sy'n dda gyda chamera, gofynnwch iddyn nhw dynnu lluniau eich artistiaid ar gyfer y wasg. Os ydych chi'n adnabod rhywun sydd wrth eu bodd yn mynd i gigs, rhowch eu henw ar y rhestr westeion a gofynnwch iddyn nhw gasglu cynnwys ar eu ffonau i'w bostio wedyn. Os ydych chi’n adnabod rhywun sy’n dda am greu logos, gofynnwch iddyn nhw wneud un i'ch artist chi. Wrth gwrs, defnyddiwch sgiliau eich artistiaid os oes ganddyn nhw ddoniau cudd defnyddiol!
Fy mhwynt fan yma yw y gallwch yn hawdd ffurfio “tîm” a all helpu gyda strategaeth eich artist ac ymroi i’r prosiect cymaint â chi ar gam cynnar. Os bydd pethau'n dod yn eu blaen yn dda, a bod pethau cŵl yn dechrau digwydd, bydd y bobl yma’n siŵr o aros gyda chi ar y daith, ac fe fyddan nhw’n werthfawr iawn.
Y pellach ewch chi ar eich taith, bydd y rolau o fewn tîm yn dechrau datblygu’n gyflym, a byddwch yn dechrau ffurfio perthnasoedd newydd gyda phobl rydych chi’n ymddiried ynddyn nhw ac yn gweithio'n dda gyda nhw.
PWYSIGRWYDD RHWYDWEITHIO A SUT I DDEFNYDDIO E-BYST.
Rydw i wastad wedi gweld rhwydweithio yn anodd iawn. Hyd yn oed nawr, os ydw i mewn ystafell o bobl sy’n gweithio yn y diwydiant cerddoriaeth, fy ngreddf yw tynnu at y bobl yn yr ystafell rwy'n eu hadnabod neu wedi cyfarfod o'r blaen. Mae'n beth anodd ei wneud, ond mae mor bwysig! Mae mynd i mewn i ystafell gyda phobl a allai fod yn rhan o'ch tîm ryw ddydd (boed yn asiant cysylltiadau cyhoeddus, asiant archebu, label recordiau) a gwerthu nid yn unig eich artist a'ch prosiect ond chi eich hun fel rheolwr, yn beth pwysig iawn.
Byddwch yn ddewr. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn hyfryd ac yn y lleoedd yma i wneud yn union yr un peth - rhwydweithio! Mae'n debygol bod y rhan fwyaf o bobl yn teimlo'n lletchwith ac yn nerfus hefyd (fe fyddech chi'n synnu!). Mewn gigs, siaradwch â phobl yn y dorf sy'n gwylio eich artist - dydych chi byth yn gwybod pwy sydd yn yr ystafell. Byddwch yn gyfeillgar, yn angerddol ac yn barod i fynd amdani - bydd hyn yn denu cefnogaeth gan lawer o bobl.
Pan nad yw rhwydweithio'n bosibl, mae anfon e-byst i randdeiliaid allweddol yn ail opsiwn da - ond peidiwch â mynd i’r arfer o gopïo a gludo e-byst. Fel rhywun sy’n derbyn e-bost wedi’i gopi a’i ludo, mae’n bosib ei weld filltir i ffwrdd. Byddwch yn bersonol - gwnewch ychydig o ymchwil i bwy rydych chi'n anfon e-bost atyn nhw. Os nad ydych chi'n eu hadnabod, dangoswch iddyn nhw eich bod chi wedi gwneud ymdrech i ddarganfod pwy ydyn nhw.
Hefyd, defnyddiwch reol yr e-bost dwbl. Anfonwch un e-bost ac wedyn un arall wythnos yn ddiweddarach. Yn aml rwy'n agor e-bost sydd ddim yn fater frys, yn ei ddarllen a meddwl “Fe wnaf i ateb hwn yn nes ymlaen” ac wedyn mae wedi mynd. Bydd nodyn atgoffa neu e-bost pellach wythnos yn ddiweddarach yn aml yn peri embaras i mi gan wneud i mi ateb ar unwaith, gan ymddiheuro'n fawr.
DALIWCH ATI I DDYSGU
Fel rheolwr, mae angen i chi fod yn hyblyg. Nid yn unig oherwydd bod hinsawdd y diwydiant cerddoriaeth yn newid yn gyson, ond am eich bod chi fel gweithiwr proffesiynol yn y diwydiant yn newid hefyd.
Allwch chi byth â gwybod popeth. Byddwch yn agored i syniadau newydd a byddwch yn barod i wneud camgymeriadau.
OES AR BOB ARTIST ANGEN RHEOLWR?
Fel arall, os ydych chi'n darllen hwn fel artist, efallai eich bod chi'n meddwl “wel, fe allwn i, ar y pwynt yma, reoli hyn i gyd fy hun” - ac i'r rhan fwyaf o artistiaid, dyma'r ffordd fwyaf synhwyrol ar ddechrau eich gyrfa.
Ond, os ydych chi'n meddwl bod angen rheolwr arnoch chi, nid oes rhaid i'r person yma eisoes fod yn rheolwr profiadol - gallai fod yn rhywun rydych chi'n eu hadnabod eisoes ac sydd heb unrhyw fwriad i fod yn rheolwr, ond rydych chi'n gwybod y byddan nhw’n wych ar y gwaith. Ydyn nhw'n drefnus? Ydyn nhw'n ateb e-byst? Ydyn nhw'n mynd i'ch sioeau? Oes ganddyn nhw angerdd am gerddoriaeth? Efallai bod gennych chi reolwr yn barod i fynd, heb yn wybod i chi!
Fel y soniais yn gynharach, dyma ddigwyddodd i mi. Dyma nhw’n gofyn “A allech chi fod yn rheolwr i ni?” neu “ydych chi'n meddwl y gallwn i fod yn rheolwr i chi?” Yr hyn rwy'n ei gofio yw ei fod wedi digwydd mewn ffordd organig iawn, a phroses araf oedd dechrau ystyried fy hun yn rheolwr artistiaid. Weithiau mae ‘syndrom y twyllwr’ yn gwthio drwodd, ond mae hynny’n llawer o hwyl hefyd, oherwydd fe allaf i deilwra pethau i sut rydw i am i bethau fod.
Roedd gen i afael go dda ar sut mae’r diwydiant cerddoriaeth yn gweithio cyn i mi fod yn rheolwr artistiaid ond doedd gen i ddim syniad go iawn beth oeddwn i'n ei wneud. Ond mae ymddiried yn fy ngreddf, gweithio’n galed a pharhau i fod yn angerddol am artistiaid wedi golygu fy mod i a’r prosiectau rydw i wedi gweithio arnyn nhw wedi cyrraedd ambell sefyllfa ryfeddol: teithio’n rhyngwladol, gwyliau cerdd a digwyddiadau byd enwog, ymgyrchoedd llwyddiannus a mwy.
Rydw i wedi dysgu llawer iawn am sut mae cerddoriaeth yn gweithio ar y tu mewn yn ystod yr ychydig flynyddoedd rydw i wedi bod yn gwneud y gwaith.
Cipolwg unigryw iawn yw hwn ar sut mae pethau wedi digwydd yn fy achos i a'r hyn rydw i wedi'i ddysgu ar hyd y ffordd. Pob lwc, peidiwch â rhuthro pethau, ac yn bwysicaf oll gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cael hwyl!