• English
  • Cysylltwch â Ni
  • English

Sut I Drefnu A Chynnal Gig Lleol Yn Llwyddiannus (Rhan 3)

Gan: Ed Townend, Venue Administrator at the Memo Arts Centre

 

Nawr bod gennych chi syniad o restr perfformwyr a lleoliad, nesaf mae'n rhaid i chi roi popeth at ei gilydd a sicrhau bod pawb yn cytuno! Hawdd, ie? Wel, mae llawer i'w ystyried, felly dilynwch y camau hyn ac ni allwch chi fethu’n hawdd.

  • GWNEWCH Daliwch at e-bost! Mae hyn yn berthnasol i bawb sy'n gysylltiedig - perfformwyr, lleoliadau, ffotograffwyr ac ati. Bydd cael popeth mewn un lle, yn hawdd ei ffeindio ac wedi'i ysgrifennu i lawr yn arbed cymaint o drafferth i chi. Peidiwch â threfnu dros y ffôn, neu os oes angen, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cael e-bost wedyn i gadarnhau'r holl fanylion.
  • PEIDIWCH â gwneud addewidion na allwch eu cadw. Wrth gysylltu ag actiau, cadwch y wybodaeth i'r hyn y gallwch ei gadarnhau yn unig - y dyddiad, y lleoliad, y tâl a'r amseroedd arfaethedig. Peidiwch a gaddo rhestr berfformwyr na lleoliad nes eich bod wedi'u sicrhau. Bydd gobaith ac addewidion ffug yn dirywio’ch enw da yn gyflymach na phêl dur mewn dŵr.
  • CYNLLUNIWCH eich dyddiad yn gynnar. Gwiriwch fod pawb ar gael - yr actiau, y lleoliad, pawb a fyddai'n gweithio arno (cyllidwr, ffotograffydd ac ati). Ystyriwch wrthdariadau posib, fel gigs genre tebyg neu ddigwyddiadau mawr a gallai effeithio ar deithio neu bresenoldeb.
  • PEIDIWCH â'i adael i'r funud olaf! Fel arfer roedd gennym derfyn o fis/pedair wythnos ar archebion o flaen llaw. Mae llawer o waith i’w wneud wth gynnal sioe, ond hefyd mae angen digon o amser ymlaen llaw i hyrwyddo'r sioe. Does dim pwynt cynnal sioe anhygoel ymhen wythnos, oherwydd ni fydd neb wedi clywed amdano mewn pryd a byddwch chi'n rhwygo'ch gwallt allan yn ceisio trefnu popeth.
  • COFIWCH fod gan bobl ymrwymiadau! Os ydych chi'n cynnal digwyddiad ar noson wythnos, ystyriwch efallai na fydd pobl yn gallu cyrraedd yno nes eu bod nhw'n gorffen gweithio. Gwiriwch gyda'r perfformwyr er mwyn dod o hyd i amseroedd sy'n gweithio i bawb a rhowch ddigon o rybudd i unrhyw un a allai fod angen amser i ffwrdd.
  • PEIDIWCH ag esgeuluso hyrwyddo. Dylech chi eisoes fod yn ystyried beth sydd ei angen arnoch i werthu eich sioe. Gofynnwch i'r perfformwyr am luniau ansawdd uchel, bywgraffiadau a hyd yn oed pethau fel logos o'r perfformwyr rydych chi'n eu harchebu. Does dim byd yn gwerthu gig yn well na'r gwaith celf a'r cyflwyniad. Rwy'n argymell gwneud hyn cyn gynted â phosib, y cynharaf y gallwch chi ddechrau hyrwyddo sioe, y gorau, a chael yr holl asedau gan fand yn gynnar yw'r cam cyntaf fan hyn.
  • BYDDWCH yn gwrtais, yn barchus ac yn ddeallus gyda phawb rydych chi'n cysylltu. Os ydyn nhw'n dweud na, gallwch chi ofyn pam, ond os ydyn nhw'n rhoi rheswm da i chi neu'n dweud yn syml nad ydyn nhw eisiau, derbyniwch ef a symudwch ymlaen. Iawn, nid dyma'ch rhestr berfformwyr breuddwydiol, ond does dim angen troi ar y perfformwyr rydych chi eisiau eu gan na fyddan nhw eisiau bod yn rhan o'ch gig nesaf. Peidiwch â llosgi pontydd.

"Bydd gobaith ac addewidion ffug yn dirywio’ch enw da yn gyflymach na phêl dur mewn dŵr."

Find out more: