• English
  • Cysylltwch â Ni
  • English

Profiad o Ysgol Haf Sain a Cherddoriaeth

Gan: Rey

Rey ydw i, cynhyrchydd electronig o ganolbarth Cymru. Fe wnes i gais i grŵp cerddoriaeth electronig Ysgol Haf Sound and Music oherwydd roeddwn i eisiau gwella fy nghynhyrchiad o gerddoriaeth electronig. Roedd yr Ysgol Haf yn gwrs preswyl a gynhaliwyd yn Ysgol Purcell, ac yn bendant roedd yn un o’r wythnosau mwyaf dylanwadol a gefais mewn addysg gerddorol o’i gymharu ag ysgol uwchradd a choleg.

Pan oeddwn i yno dysgais lawer, er enghraifft; hanfodion Ableton, synthesis a hanes byr o beiriannau drymiau. Drwy gydol yr wythnos byddwch yn ysgrifennu eich trac eich hun ac ar ddiwedd yr wythnos byddwch yn perfformio eich trac eich hun. Tra roeddwn i'n creu fy nghân roeddwn yn gallu cydweithio gyda'r myfyrwyr eraill a chefais bob cymorth i wneud trac da erbyn y diwedd. Pan wnes i berfformio roedd yn wych cael adborth gan y gynulleidfa a gweld beth oedd barn pobl am fy nhrac. Diddorol hefyd oedd clywed y grwpiau eraill yn gwneud eu perfformiadau hefyd.

Yn ystod yr wythnos mae yna weithgareddau i'ch ymgartrefu ac i ddysgu am gerddoriaeth. Mae yna hefyd sesiynau blasu lle cewch chi roi cynnig ar y dosbarthiadau eraill fel offerynnol, jazz, lleisiol, ffilm a thrawsddiwylliannol. Dysgais ystod wahanol o wybodaeth gerddorol ganddyn nhw hefyd.

Cyfarfûm ag ystod mor amrywiol o bobl a oedd i gyd yn frwd dros gerddoriaeth a rhai ffrindiau da hefyd. Cefais ddealltwriaeth hefyd o genres cerddorol eraill a sut y cawsant eu hysgrifennu hefyd. Roedd y tîm sain a cherddoriaeth mor gefnogol ac felly hefyd y tiwtoriaid. Mae'r amgylchedd yn gynhwysol ac yn ymgolli iawn. Mae'r cyfle i fynd yn bendant yn werth %100 gan ei fod yn brofiad mor anhygoel.

Mae ceisiadau ar gyfer yr Ysgol Haf Sain a Cherddoriaeth fel arfer yn agor ym mis Ionawr bob blwyddyn. Dysgwch fwy ar wefan Sain a Cherddoriaeth.