• English
  • Cysylltwch â Ni
  • English

Sut I Drefnu A Chynnal Gig Lleol Yn Llwyddiannus

Gan: Ed Towend, Former Promoter/Technical Manager at The Moon Cardiff

CYMHowToBookOrganiseAndPullOffALocalGig

Mynnwch gyngor gan eich lleoliad gigs llawr gwlad lleol; Pan fydd hyrwyddwr neu act yn cysylltu â ni fel lleoliad, yn aml ein cwestiwn cyntaf yw “pwy sy’n chwarae?”. I bob lleoliad, nid dim ond ni, mae hyn yn hanfodol a dyma fydd yn penderfynu a ydyn nhw am roi llwyfan i’ch gig ai peidio, felly eich lein-yp ddylai fod eich blaenoriaeth bennaf. Dyma eich cyfle gorau i lwyddo.

  • COFIWCH ystyried genres a 'theimlad' y noson. Er enghraifft, gall act acwstig ac yna band roc caled (neu waeth – y ffordd arall!) fod yn anodd i’w werthu. Mae lein-yps aml-genre yn wych ac yn gyfle i ddangos amrywiaeth eang o’r sîn, ond mae’r awyrgylch a’r gynulleidfa yn rhan fawr o’r hyn sy’n gwneud gig yn llwyddiannus.
  • PEIDIWCH â jyst dewis eich hoff artistiaid heb feddwl yn ofalus. Nid yw'r ffaith eich bod chi'n hoffi pwy sy'n chwarae yn golygu y bydd pobl eraill yn dod i'r gig yn awtomatig. Meddyliwch am yr hyn y gallai cynulleidfa ei hoffi, pwy sy'n creu cyffro ar hyn o bryd, pa fandiau neu artistiaid allai ategu ei gilydd. Yn aml, ffordd dda o greu lein-yp yw dewis un act rydych chi'n ei charu a dod o hyd i rai eraill sy'n debyg neu a fydd yn ffitio o'i chwmpas.
  • COFIWCH geisio cael amrywiaeth yn eich lein-yp. Meddyliwch am lein-yp sy’n gytbwys o ran rhywedd neu un sy'n cynnwys perfformwyr o gefndiroedd amrywiol. Po fwyaf amrywiol yw eich gig, yr hapusaf fydd y sîn (a’r lleoliad). Meddyliwch yn ddwys am eich lein-yp ac ystyriwch a ydych chi wir yn cynrychioli ac yn cefnogi ystod amrywiol o bobl.
  • PEIDIWCH ag anghofio eich cynulleidfa. Pwy ydych chi'n meddwl ddaw i’r gig, a pham? Beth fydden nhw'n chwilio amdano mewn gig? A yw'n gig ddifrifol i ffans difrifol neu a yw'n barti i'ch ffrindiau? Dylech chi bob amser ddewis eich artistiaid yn unol â hynny.
  • COFIWCH drefnu digon o amser ar gyfer noson dda o gerddoriaeth. Mae angen digon o amser ar leoliadau i dalu costau (staff, gwerthiant bar ac ati), ac mae cynulleidfaoedd yn disgwyl gwerth am arian. Anelwch at 3-4 awr o gerddoriaeth, gyda phedair act yn chwarae setiau 30 munud efallai, yn hytrach nag un neu ddwy act, a allai adael pobl yn siomedig.
  • PEIDIWCH â bwcio gormod i’ch lein-yp. Byddwch yn realistig am eich cyllideb a'r amser sydd ar gael i chi. Iawn, efallai y byddai chwe act yn wych, ond allwch chi eu fforddio nhw? A fyddai pawb yn cael eu talu'n deg? A fydd digon o amser i bawb wirio’r sain, newid rhwng un act a’r llall a chwarae heb orfod brysio? Ystyriwch rannu’r lein-yp dros ddwy gig os ydych chi'n daer eisiau i bawb chwarae!
  • COFIWCH gael cynllun wrth gefn! Efallai y bydd act yn eich lein-yp yn dweud na pan ofynnwch iddyn nhw, neu'n waeth, yn tynnu yn ôl ar y funud olaf. Bydd bod ag opsiynau parod wrth gefn yn eich arbed rhag y straen o frysio i lenwi slot.

"Meddyliwch am yr hyn y gallai cynulleidfa ei hoffi, pwy sy'n creu cyffro ar hyn o bryd, pa fandiau neu artistiaid allai ategu ei gilydd."