• English
  • Cysylltwch â Ni
  • English

Ymuno â'r Gymdeithas Hawliau Perfformio (PRS)

Gan: Shereef Ragab

Os ydych chi'n dechrau ennill momentwm fel band, artist, cyfansoddwr neu ganwr, mae'n bryd ystyried ymuno â'r Gymdeithas Hawliau Perfformio. Os yw eich ffrydiau yn cynyddu a bod eich cerddoriaeth yn cael ei darlledu, ystyriwch gofrestru. Mae gan wefan PRS ganllaw anhygoel sy'n mynd â chi drwy'r broses gofrestru gam wrth gam.


https://join.prsformusic.com/s/

 
GAM WRTH GAM


FFIOEDD - Mae ffi untro o £100 i ymuno. Ond mae hyn yn golygu y gallwch gasglu breindaliadau lle bynnag y mae eich caneuon yn cael eu chwarae. Bydd darlledu un o’ch caneuon un waith ar sianel fawr yn ddigon i dalu am eich £100.


Byddwch eisiau cofrestru fel awdur/cyfansoddwr


prs1


Anwybyddwch yr opsiwn i ymuno â'r Mechanical-Copywright Protection Society, neu’r MCPS. Mae'r gymdeithas hon yn casglu breindaliadau mecanyddol pan fydd eich gwaith yn cael ei roi ar fformat ffisegol neu ddigidol (o ffynhonnell eilaidd fel arfer). Byddwch eisiau ystyried yr opsiwn yma os yw eich gwaith eisoes yn cael ei syncio mewn rhaglenni teledu.


Mwy am yr MCPS:

https://help.prsformusic.com/s/article/what-is-mcps 

prs2

Mae gan y PRS gyfrifiannell lle gallwch edrych ar eich cyrhaeddiad presennol a gweld a ydych chi'n gymwys. Un ffordd i fod yn gymwys i fod yn aelod yw cael 5 perfformiad byw mewn lleoliadau bach fel caffis, 5,000 o ffrydiau, 2 ddarllediad ar Radio 1, a 10 darllediad ar Radio Lleol Annibynnol. Bydd hyn yn ddigon i allu ymuno â'r PRS a dechrau casglu breindaliadau.

prs3

Bydd angen cerdyn credyd arnoch i dalu am eich aelodaeth a phasbort neu drwydded yrru i wirio pwy ydych chi. 


prs5
Darllenwch y dogfennau cyfreithiol cyn i chi gofrestru'n swyddogol.

Mae ffynonellau cyllid ar gael a allai dalu costau ymuno â'r PRS ond mae'n rhaid i chi fod ar bwynt penodol yn eich gyrfa i dderbyn hyn. Os mai dechrau arni ydych chi, y siawns yw y byddwch chi am ymuno â'r PRS pan fyddwch chi'n dechrau denu dilynwyr.


Ymuno â Phonographic Performance Limited (PPL)


Mae Phoneographic Performance Limited yn trwyddedu'r defnydd o gerddoriaeth wedi'i recordio. Holl ddiben ymuno â'r PPL yw i chi gasglu breindaliadau os ydych chi wedi perfformio ar gerddoriaeth wedi'i recordio sydd wedi'i darlledu neu ei chwarae'n gyhoeddus. Gallech fod yn artist unigol, yn gyfansoddwr darn, neu'n berfformiwr sy'n cyfrannu fel cerddor sy'n cyfeilio - gitarydd ychwanegol, offerynnau taro ac ati. Byddai gennych hawl i freindaliadau bob tro y caiff y gerddoriaeth ei chwarae’n gyhoeddus.


https://www.ppluk.com/

Cewch ymuno â PPL AM DDIM, er bod PPL yn tynnu ffi fechan o unrhyw freindaliadau sy’n cael eu casglu. Ond edrychwch arni fel hyn - hebddyn nhw, ni allech gasglu unrhyw freindaliadau!


Bydd angen llenwi ffurflen syml er mwyn ymuno. Cofrestrwch fel perfformiwr os nad ydych chi'n siŵr beth i’w ddewis.

ppl1
Mae angen i chi fod dros 18 oed i gofrestru. Os yw'r perfformiwr sydd eisiau cofrestru o dan 18 oed, mae angen iddyn nhw gael eu cofrestru gan rywun dros 18 oed.

ppl2
Bydd angen y canlynol arnoch:

Manylion cyswllt

Manylion banc a threth

Llofnod, dyddiad geni a chyfeiriad

ppl3 

Rhowch eich enw a'ch cyfeiriad e-bost a bydd PPL yn anfon e-bost i chi er mwyn creu eich cyfrif. Bydd angen i chi osod cyfrinair. Yna ychwanegwch eich manylion i'r cyfrif ar-lein.

ppl4

Yna byddwch chi'n barod i fynd!!