Ydwi’n Gallu Llwyddo Fel Artist Sy’n Chwarae Cerddoriaeth Cymraeg/Dwyieithog?
Gan: Tesni Hughes
Helo ‘na! Tesni ‘dwi, dwi’n artist Cymraeg o Ynys Môn. Dwi wedi bod yn ‘sgwennu a gigio yn y Gymraeg ers sawl mlynedd rŵan. Yn y blog yma, rwyf am drafod y pethau da a’r ‘not so good’ , a’r gwir ar sut beth ydio i fod yn berson sydd eisiau llwyddo drwy ganu’n Gymraeg neu’n ddwyieithog. Mi fyddaf yn sôn am fy mhrofiadau i, bandiau lleol i Gymru ag hefyd y bandiau sydd wedi gwneud hi’n fawr drwy greu’n ddwyieithog. Yn y blog yma bydd ambell i sgwrs gyda cerddorion Cymraeg/dwyieithog fydd yn trafod eu profiadau nhw hefyd.
Yn amlwg , mae Cymraeg yn iaith sy’n cael ei weld fel iaith leifafrifol erbyn heddiw. Felly, dwi’n siwr eich bod wedi meddwl i’ch hunain ‘pam y dyliwn i gyfansoddi yn y Gymraeg?’ , ‘ydwi wir yn gallu llwyddo drwy greu cerddoriaeth Cymraeg?’ neu ‘ ydio’n bosib i mi fynd ym mhell gyda cerddoriaeth Cymraeg/Dwyieithog tu allan i Gymru?’. Mae’r cwestiynau yma yn gwestiynau digon teg ag yn rhywbeth mae lot fawr o gantorion neu chyfansoddwyr o Gymru wedi cysidro.
Dwi’n gobeithio ar ol i chi orffen darllen y blog ‘ma , fyddwch chi’n teimlo eich bod hefyd yn gallu creu/canu/cyfansoddi drwy’r Gymraeg neu’n ddwyieithog, hefo ‘chydig o atebion i’r cwesitynau yma neu, o leiaf y bydd ganddoch dealltwriaeth gwell ar beth sy’n mynd ymlaen yn y Sin Roc Gymraeg!
Dwi'n siŵr eich bod wedi clywed am fandiau fel ‘Manic Street Preachers’, ‘Stereophonics’ , ‘Catfish and the bottlemen’ ag ‘Catatonia’ o’r blaen, neu o leiaf wedi clywed eich rhieni yn sôn amdanynt. Er mai bandiau sydd yn canu’n Saesneg yw’r rhain maen nhw gyd yn dod o’n gwlad fach ni! Mae’r bandiau yma wedi hedfan ein fflag ni ar draws y byd mewn gwyliau a gigs mewn amryw o wledydd.
“Ond yn Saesneg ddaru’r bandiau yma ddod yn boblogaidd?” dwi’n clywed chi’n gofyn. Rydych yn gywir, ond mae yna llawer iawn o fandiau eraill sydd wedi dod yn boblogaidd drwy ganu yn yr iaith Gymraeg.
Mae ‘Super Furry Animals’ , ‘Gorky’s zygotic mynci’ a ‘big leaves’ yn fandiau oedd yn canu’n ddwyieithog ac wedi gigio ar draws y byd. Ond bandiau 1990’s oedd y rhain ag bellach ddim rili’n gigio dim mwy. Er mae Super Furry Animals yn gwneud taith lenni!! (I do recommend).
Mae bandiau fel ‘Alffa’, ‘Adwaith’ , ‘The Royston club’ , ‘Band Pres llareggub’ , ‘Pedair’, ‘Bwncath’ a dipyn mwy wedi datblygu o fod yn fandiau/artisitiaid sydd dim ond yn gigio yng Nghymru i fandiau sydd wedi gigio yn Glastonbury , America , Canada ,Ewrop a sawl ŵyl fawr arall ar draws y byd.
Yn ffodus iawn, cefais y cyfle i sgwrsio gyda’r band Dion Jones o’r band ALFFA am eu profiadau nhw yn Sin Roc Gymraeg a thu allan i Gymru.

Ychydig am Alffa:
Nath Alffa ddechrau tra roedd y ddau ohona ni'n yr ysgol, jest dau ffrind o Lanrug yn mwynhau sgwennu a jamio. Nath bach o hwyl droi i mewn i yrfa yn eithaf sydyn wedyn wrth i ni ffeindio sŵn ni a datblygu fel band.
'Da ni wastad wedi trio cadw mor bur â ffosib i be odda ni'n wreiddiol fel band, dau ffrind yn cael hwyl. Ers hynny 'da ni di chwarae ar draws y byd, o Ganada, i'r Eidal, i Lydaw, nol i Lanrug. Rhywsut yn ganol hun hefyd, odd a ni ddigon lwcus i fod y band cyntaf efo cân Gymraeg i hitio dros filiwn o ffrydiau, profiad bonkers.
Mae hi wedi bod yn chwip o siwrna hyd yma a 'da ni methu aros am beth sydd i ddod.
Pam eich bod wedi dewis creu cerddoriaeth yn ddwyieithog?
Mae’r Gymraeg mor bwysig I ni fel band, dyna’r iaith sydd wedi magu ni – ma’n rhan ohona ni am byth. Ddoth y saesnag wrth I’n cynulleidfa ni ddatblygu. O ran ysgifennu caneuon, does dim rheola, jest be bynnag sy’n llifo y diwrnod hwnw.
Pa mor bwysig yw’r iaith Gymraeg i’r band?
Dwi’n meddwl bod miwsig yn gallu cadw’r iaith yn iach ag yn fyw, felly mae’n hanfodol bod pobl yn defnyddio’r Gymraeg drwy gerddoriaeth.
Profiad gorau i chi fel band?
Anodd iawn dewis un profiad, ond dyma lond llaw – chwarae ar draw y byd, recordio 2 albym, bod yn rhan o gymuned o bobl sydd ryn peth a ni.
Y lle gorau rydych wedi gigio?
Yn bersonol I fi (Dion), Canada. Lle anhygoel, pobl anhygoel a jest profiad nai fyth anghofio.
Unrhyw heriau?
Mae na lond llaw o heiriau. Pres er mwyn talu am llefydd ymarfer, amser gan bod y ddau ohona ni mor brysur. Ond mae cariad y ddau ohona ni tuag at ein crefft yn curo’r cyfan haha!
Unrhyw dips i berson ifanc sydd eisiau cychywn eu gyrfa yn Gymraeg neu’n ddwyieithog?
Mae’n well trio a methu, na peidio trio o gwbwl. Dyna ydi moto ni fel band. Tin goro jest mynd amdani, fel arall fydd rhywun arall yn cymud dy le di. Mwynha dy hun a cer amdani.
Diolch enfawr i Dion Alffa am ei amser!!
Mae yna cymaint o ffyrdd o lwyddo yn ddwyieithog yn y maes cerddoriaeth yng Nghymru a thu hwnt boed hynnu drwy gyfansoddi, gigio, ysgrifennu ond hefyd drwy gynhyrchu a recordio! Weithiau mae’n rhaid gwthio eich hyn o’r ‘comfort zone’ a mynd amdani. Os ydych yn angerddol am rhywbeth, GO FOR IT!