• English
  • Cysylltwch â Ni
  • English

Tŷ Cerdd - Ymddiriedolwyr Newydd​

Rydyn ni am recriwtio ymddiriedolwr newydd i ymuno â’n Bwrdd medrus ac angerddol.

Rydym yn awyddus i dderbyn ceisiadau gan bobl sydd ag arbenigedd mewn cyfrifon/rheolaeth ariannol (yn enwedig mewn cyfrifeg elusennau), mewn marchnata a chynhyrchu incwm/datblygu busnes.

Mae ystod y gweithgarwch yn Tŷ Cerdd yn anhygoel o eang ac rydyn ni am i’n Bwrdd adlewyrchu’r ehangder hwnnw – ac, yn bwysig, adlewyrchu’r Gymru fodern, amrywiol, a’r holl brofiad, cefndiroedd diwylliannol a genres cerddorol a ddaw yn ei sgil.

Yn unol â'n hymrwymiadau i'n Gonglfeini, rydym yn awyddus i dderbyn geisiadau gan unigolion sy’n cael eu tangynrychioli neu wedi wynebu esgeulustod neu waharddiad o gymuned y celfyddydau. Rydym yn hynod groesawi ceisiadau gan bobl anabl a niwroamrywiol, pobl sy’n Du, Asiaidd ac o’r mwyafrif byd-eang, pobl sy’n LHDTC+ a phobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is.

Darganfyddwch fwy amdanom ni trwy’n gwefan, darllenwch ein Conglfeini isod, ac os ydych â diddordeb (neu’n adnabod rhywun efallai bydd â diddordeb), mae’r wybodaeth am sut i wneud cais isod.

Conglfeini

Mae gwaith Tŷ Cerdd wedi’i adeiladu o amgylch conglfeini cryf sy’n fframio ei genhadaeth.
 
Beth mae bod yn Ymddiriedolwr TC yn ei olygu?

Mae ein Bwrdd yn cyfarfod bob chwarter, ac rydym yn trefnu 12 mis o gyfarfodydd ar ddechrau pob blwyddyn galendr, gan geisio ymateb cymaint ag y gallwn i amserlenni ac argaeledd ein hymddiriedolwyr. Mae'r prif gyfarfodydd llywodraethu hyn weithiau ar-lein ac yn aml yn hybrid (ar-lein ac yn bersonol ar yr un pryd).

Yn y misoedd rhwng cyfarfodydd llywodraethu, rydym yn cynnal 'Board Shorts' – sesiynau mwy anffurfiol, ar-lein, awr o hyd sy’n galluogi ymddiriedolwyr i fynd o dan foned rhywfaint o’n gwaith, ac i hyrwyddo rhannu rhwng y Bwrdd a’r Staff. Nid yw pawb yn dod i bob un o'r rhain bob mis, sy'n iawn; maent wedi creu lle ar gyfer rhannu syniadau a chynyddu dealltwriaeth.

Nid yw rôl ymddiriedolwr yn un feichus, ond wrth gwrs mae ganddi'r cyfrifoldebau cyfreithlon sy'n gysylltiedig â bod yn gyfarwyddwr elusen.

Mae ein hymddiriedolwyr yn dweud wrthym eu bod yn mwynhau ymgysylltu â'i gilydd a chyda'n sefydliad bywiog. Ochr yn ochr â'r busnes difrifol o oruchwylio elusen, mae aelodaeth bwrdd TC yn gyfle gwych i gefnogi cerddoriaeth Gymreig, cwrdd â phobl newydd a rhannu eich profiad a’ch arbenigedd eich hun.

Felly hoffech chi wneud cais i ymuno â thîm llywodraethu TC?

E-bostiwch Abby Charles: abby.charles@tycerdd.org gan ateb y cwestiynau canlynol erbyn 17:00 ddydd Mawrth 10 Mehefin
(DS: derbynnir ceisiadau fideo hefyd – anfonwch eich fideo heb fod yn hirach na 5 munud  gan ymdrin â’r pwyntiau bwled isod): 

  • Enw llawn, cyfeiriad, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn symudol (ac, os yn berthnasol, eich gwefan, enwau cyfryngau cymdeithasol ac yn y blaen)
  • Beth gallwch ei ddwyn gyda chi i’n sefydliad yn eich barn chi? Dywedwch wrthon ni ychydig amdanoch chi a sut yn eich tyb chi y gall eich profiad gyfrannu at Tŷ Cerdd. (dim mwy na 250 o eiriau)
  • Beth yw hi am Tŷ Cerdd sydd o ddiddordeb arbennig i chi? (dim mwy na 250 o eiriau)

DYDDIAD CAU E-bostiwch Abby Charles erbyn 17:00 ddydd Mawrth 10 Mehefin

Byddwn mewn cysylltiad yn ystod ail hanner mis Mehefin.  

... neu hoffech gael sgwrs i gael gwybod mwy cyn i chi wneud cais?

E-bostiwch Abby Charles: abby.charles@tycerdd.org,  a fydd yn falch o ateb unrhyw ymholiadau drwy e-bost, neu drefnu galwad ffôn neu fideo gyda Deborah Keyser (Cyfarwyddwr Tŷ Cerdd) neu Rachel Ford-Evans / Harriet Wybor (Cyd-Gadeiryddion Tŷ Cerdd)