• English
  • Cysylltwch â Ni
  • English

Cyllid Loteri Tŷ Cerdd

Mae Tŷ Cerdd yn dosbarthu cyllid y Loteri ar ran Cyngor Celfyddydau Cymru i helpu sefydliadau i ddatblygu cerddora ym mhob genre mewn cymunedau ledled Cymru.

Mae tair elfen – Creu, Ymgysylltu ac Ysbrydoli – yn cefnogi amrywiaeth o waith. Caiff eich sefydliad wneud cais i un, dau neu dri photyn ar yr un pryd os oes gynnoch chi weithgarwch sy’n gweddu i’r blaenoriaethau a’r canllawiau. Darganfyddwch fwy ar wefan Tŷ Cerdd.

Creu
Cronfa i gefnogi creu gwaith newydd gan gyfansoddwyr a chrewyr cerddoriaeth mewn unrhyw genre. Gallwch wneud cais am hyd at £2,000 gan Creu i gomisiynu cyfansoddwr, cydweithio ag artist preswyl neu ymuno â chrëwr cerddoriaeth i gyfansoddi darn newydd i’ch grŵp.

Ymgysylltu
Gan ariannu amrywiaeth o weithgarwch – o berfformiadau byw i gynyrchiadau ar-lein, o weithdai i gydweithrediadau cymunedol – mae Ymgysylltu yn cynnig grantiau rhwng £250 a £2,000 tuag at weithgarwch sy’n ymestyn allan at gynulleidfaoedd a chymunedau.

Ysbrydoli
Gyda phobl ifainc yn ganolog iddo, mae Ysbrydoli yn gallu cefnogi’ch sefydliad hyd at gyfanswm o £2,000 am brosiect cerdd i gyfranogwyr o dan 26 oed. 
 
DYDDIAD CAU: 18.10.23 (5yp)