Cyfleoedd Creu Cerddoriaeth Tŷ Cerdd CoDi
Mae CoDI 23/24 yn cynnwys llwybrau cyflogedig, dan arweiniad artistiaid ochr yn ochr ag RHYNGWEITHIO, sef cyfres o weithdai a hyfforddiant.
STIWDIO CYFANSODDWYR mentora a chefnogaeth i gyfansoddi am ensemble o 12 dan arweinydd, mewn cydweithrediad ag UPROAR, a’r cyfansoddwyr arweiniol Lynne Plowman a Richard Baker.
BŴM! yn cefnogi pedwar artist/grŵp i ddatblygu sgiliau gwneud cerddoriaeth a sain awyr agored, gyda ffocws ar Gyfiawnder Hinsawdd – mewn partneriaeth â Oxford Contemporary Music ac Articulture.
PEBLO PENGWIN llwybr ar gyfer chwe artist niwro-ddargyfeiriol, mewn cydweithrediad ag Aubergine Café a’r ddeuawd Ardal Bicnic.
Cyhoeddir manylion llawn y cyfleoedd ym mis Mehefin, ond yn y cyfamser gallwch fynegi diddordeb yn y tri llwybr ar wefan Tŷ Cerdd.
Dysgwch fwy yn nigwyddiad Fforwm Cyfansoddwyr a Chrewyr Cerddoriaeth am 4pm ddydd Mercher 31 Mai - Cofrestrwch ar y wefan