• English
  • Cysylltwch â Ni
  • English

Ty Cerdd Codi - DATBLYGU ARTISTIAID

EIN RHAGLEN DATBLYGU ARTISTIAID CoDI 2026/27

Gyda themâu megis arbrofi, llais a chyfathrebu wrth wraidd rhaglen 2026/27, mae CoDi yn cynnig lle croesawgar i artistiaid archwilio syniadau, cymryd heriau creadigol, ac ehangu eu hymarfer i gyfeiriadau newydd.

Prif linynnau gweithgarwch ein rhaglen ar gyfer 2026/27 yw:

Adlais - Yn galw ar artistiaid, artistiaid sain, a chyfansoddwyr-perfformwyr sy’n gweithio gyda llais ac electroneg ar gyfer y preswyliad byr, dwys hwn yn agos at arfordir De Cymru. 
Curiad - Yn galw ar grewyr cerddoriaeth unrhyw genre ar gyfer cyfle datblygu creadigol i gyfansoddi ar gyfer y llais ac offerynnau taro. 
Llifo - Yn galw ar grewyr cerddoriaeth o unrhyw genre i gyfansoddi ar gyfer llais a phedwarawd llinynnol. 
Trefnu - Datblygwch eich arfer trefnu gyda'r mentoriaid Patrick Rimes a Paula Gardiner 

Dysgwch fwy a sut i wneud cais ar wefan Tŷ Cerdd.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau - 17 Awst 2026