• English
  • Cysylltwch â Ni
  • English

Trac Cymru – Galwad Am Hwyluswyr Creadigol

Mae Trac Cymru yn bwriadu cynyddu ei fanc o hwyluswyr creadigol i helpu i gyflawni ei uchelgais ar gyfer rhaglen gynyddol o weithdai cerddoriaeth gyffrous mewn ysgolion a grwpiau cymunedol ledled y wlad.

Ein huchelgais ar gyfer y dyfodol yw sicrhau bod ein cerddoriaeth genedlaethol yn cael ei theimlo fel calon y genedl, ac i wneud i hyn ddigwydd rydym yn awyddus i gynyddu cynhwysiant ac amrywiaeth yn y sector cerddoriaeth draddodiadol ac yn bwriadu arwain prosiectau newydd beiddgar sy’n defnyddio rhinweddau cynhenid cydlyniant cymunedol sydd wrth wraidd ein traddodiadau gwerin – yn enwedig mewn cyfnewid unigryw rhwng cenedlaethau o wybodaeth ar y cyd ac adrodd straeon mynegiannol. 

Mae Trac Cymru bellach yn chwilio am hwyluswyr creadigol sy’n awyddus i ymuno â ni ar y daith hon. Mae rhai cyfleoedd un fuan, ond rydym hefyd am ddatblygu grŵp rhanddeiliaid o artistiaid sy’n gweithio yn y traddodiadau y gallwn eu cefnogi gyda hyfforddiant yn y dyfodol a chyfleoedd datblygu proffesiynol eraill. 

Efallai rydych yn gweithio ym myd cerddoriaeth, cân, dawns, neu adrodd straeon – rydym yn awyddus i glywed gennych.

Os ydych wedi bod yn chwilio am gyfle fel hyn llenwch ein Ffurflen Hwylusydd Creadigol isod, gan roi gwybodaeth i ni am eich profiad a’ch set o sgiliau.

Dysgwch fwy ar wefan Trac Cymru.