• English
  • Cysylltwch â Ni
  • English

Cystadleuaeth Cerddor Ifanc Cymru Pendine

Mae Cystadleuaeth Cerddor Ifanc Cymru Pendine yn gyfle unigryw i gerddorion ifanc sydd wedi'u geni neu'n byw yng Nghymru arddangos eu doniau yng Ngŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru, cael eu beirniadu gan feirniaid byd-enwog, derbyn adborth arbenigol ar eu perfformiadau a pherfformio yn un o'r acwstig gorau yng Nghymru, sef Eglwys Gadeiriol Llanelwy, yn ogystal â chael eu darlledu ar BBC Radio Cymru.

Rhaid i bob cerddor fod o dan 21 oed ar 1 Ionawr 2025 i fod yn gymwys i gystadlu.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cystadlu, uwchlwythwch glip fideo neu sain o'ch perfformiad ar gyfer Rownd 1, ynghyd â'ch ffurflen gais wedi'i chwblhau a'ch dogfen prawf oedran, trwy wefan Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru - nwimf.com - erbyn 5pm ar ddydd Gwener 4ydd Gorffennaf 2025.

Dewch o hyd i'r holl fanylion am sut i wneud cais ar wefan NWIMF.