• English
  • Cysylltwch â Ni
  • English

Sound and Music - In the Making

Mae'r rhaglen 12 mis yn dod â 50 o gerddorion ifanc o bob cwr o’r DU ynghyd, gan eu cefnogi i ddatblygu eu sgiliau cyfansoddi, recordio a pherfformio, tra’n meithrin hyder, profiad ac uchelgais greadigol. Dan arweiniad cyfansoddwyr ac athrawon blaenllaw, byddant yn archwilio posibiliadau newydd mewn cerddoriaeth ac yn cymryd camau ystyrlon tuag at eu nodau artistig a phroffesiynol.

Mae In the Making yn cychwyn ym mis Gorffennaf 2025 gyda gwersyll preswyl wythnos o hyd yn ystod yr haf, a gynhelir ym Mhrifysgol Huddersfield, ac yna dilynir hynny gan unarddeg mis o weithdai ar-lein, sesiynau, tasgau cyfansoddi a pherfformiadau. Bydd pob cyfranogwr hefyd yn derbyn recordiad proffesiynol o’u cerddoriaeth—i’w gynnwys ar ein sianel YouTube ac i’w darlledu ar ein sioe radio ar Resonance FM.

I fod yn gymwys i wneud cais, rhaid i chi fod:

  • Yn 14–18 oed erbyn 19 Gorffennaf 2025
  • Mewn addysg llawn amser
  • Yn breswylydd yn y DU

Mae ceisiadau ar agor, a'r dyddiad cau i gyflwyno cais yw Dydd Sul 13 Ebrill 2025 am 23:59 UTC.

Dysgwch fwy am In the Making yma.

Gwnewch gais am In the Making yma.