Sound and Music - Cronfa Hanfodion 2024
Mae Cronfa Hanfodion yn grant bach rhwng £250-£400 i gefnogi eich gwaith trwy dalu am brosiectau dysgu hunangyfeiriedig, offer, mentora, a chostau uniongyrchol eraill ar gyfer prosiect neu i gefnogi eich datblygiad artistig mewn ffyrdd eraill. Bydd Sound and Music yn cynnal nifer o rowndiau bob blwyddyn.
Isod mae enghraifft, nid rhestr gynhwysfawr, o'r mathau o weithgareddau y gall y Gronfa hon eu cefnogi:
- cwrs ar-lein
- rhaglen o sesiynau hyfforddi neu fentora
- prynu a dysgu pecynnau meddalwedd neu galedwedd newydd
- prynu offer technegol sy'n hanfodol i greu gwaith newydd penodol neu gyfle ffrydio byw (e.e. paneli goleuo LED neu gamera)
- prosiect cyfansoddi hunangyfeiriedig a fyddai'n elwa ar gyfnod o ymarfer, gweithdy neu gydweithio gyda cherddor(ion), ensemble neu gydweithredwr artistig arall (e.e. artist gweledol, artist perfformio arall)
- ymgymryd â recordiad o waith sydd eisoes yn bodoli gyda mwy nag un cerddor
Mae Cronfa Hanfodion ar agor i unrhyw gyfansoddwr, creawdwr cerddoriaeth neu artist sy'n gweithio'n greadigol gyda cherddoriaeth a sain. I fod yn gymwys rhaid i chi:
- Fod wedi'ch lleoli yn y DU
- Bod yn 18 oed neu'n hŷn
- Peidio bod mewn addysg amser llawn neu ran-amser (mewn unrhyw bwnc) ar adeg gwneud cais
- Peidio bod ar un o'n rhaglenni datblygu artistiaid (New Voices, Seed Award, In Motion, In the Making, neu gomisiwn gweithredol) ar adeg gwneud cais
- Peidio bod wedi derbyn un o'n grantiau, comisiynau, gwobrau, neu wedi cymryd rhan mewn rhaglen datblygu artist gan Sound and Music yn y chwe mis diwethaf
Dysgwch fwy am Gronfa Hanfodion Sound and Music yma.
Gwnewch gais am Gronfa Hanfodion Sound and Music yma.
Y Rownd Nesaf yn 2026