• English
  • Cysylltwch â Ni
  • English

Her Sinema Tawel - Cynghrair Sgrin Cymru

Fel rhan o Sinemaes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd eleni, mae Cynghrair Sgrin Cymru wedi ymuno â’r Archif Sgrin a Sain i gynnig her i unrhyw un greu cerddoriaeth ac un o’i ffilmiau yn eu casgliad.
Roedd William Haggard yn arloeswr ffilm a sefydlodd sinemâu yn ardal Rhondda Cynon Taf ganrif yn ôl. Mae un o’i ffilmiau, ‘The Sheep Stealer’ ar wefan yr Archif, a byddan nhw’n gwahodd pobl i greu trac sain a dod â’ch dehongliad chi o’r ffilm i realiti. Ydych chi'n gweld ffilm gomig, neu ddrama ddifrifol? Gellir gweld y ffilm am ddim yn https://player.bfi.org.uk/free/film/watch-the-sheep-stealer-1908-online
Gallwch greu cerddoriaeth am yr 8 munud cyfan, neu ar gyfer unrhyw ran ohono. Anfonwch eich cyfansoddiad i Screen Alliance Wales yn info@screenalliancewales.com erbyn y 14eg o Fehefin, a byddant yn ei ddangos fel rhan o raglen Sinemâu ym mis Awst.

Darganfyddwch fwy o wybodaeth yma.