• English
  • Cysylltwch â Ni
  • English

Ysgoloriaeth Goffa Saunders Lewi

Mae Ysgoloriaeth Goffa Saunders Lewis yn cynnig hyd at £10,000 dros ddwy flynedd i gefnogi unigolion sydd am:

  • Dreulio amser yn astudio ar y cyfandir Ewrop mewn un o’r pedair maes: drama a/neu ffilm, systemau gwleidyddol, cysylltiadau llenyddol, neu’r celfyddydau cain gan gynnwys cerddoriaeth;
  • Neu gyflwyno astudiaeth yn ymwneud â chyfraniad Saunders Lewis i lenyddiaeth, theatr neu wleidyddiaeth Cymru.

Rhoddir blaenoriaeth i ymgeiswyr dan 35 oed, ond gellir ystyried ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn mewn amgylchiadau arbennig. Gellir rhannu’r ysgoloriaeth rhwng mwy nag un derbynnydd, a’r cyfartaledd a roddir yw tua £4,000–£5,000 yr un.

Ar ddiwedd y cyfnod ysgoloriaeth, disgwylir i’r enillwyr gyflwyno deunydd yn Gymraeg yn seiliedig ar eu gwaith, mewn ffurf addas i’w gyhoeddi. Derbynnir allbynnau amrywiol megis podlediadau, perfformiadau, neu astudiaethau ysgrifenedig.

I wneud cais, anfonwch gais byr ynghyd â’ch CV cyfredol. Gellir cael ffurflen gais drwy gysylltu â’r Ysgrifennydd ar dcreunant@gmail.com.

Dyddiad Cau: 5pm, Dydd Llun 30 Mehefin 2025

Cyfweliadau: Dydd Sadwrn 12 Gorffennaf 2025, Aberystwyth

Peidiwch â cholli’r cyfle unigryw hwn i ddatblygu’ch astudiaethau a’ch ymchwil ym meysydd diwylliannol Cymru!