• English
  • Cysylltwch â Ni
  • English

Oriel Myrddin - Galwad am Gynigion Gwaith Celf

Pwy ddylai wneud cais:

Dylech wneud cais os ydych chi'n artist gweledol sy'n uniaethu â bod yn rhan o'r mwyafrif byd-eang (Pobl Dduon, Asiaidd, Brodorol, etifeddiaeth gymysg, a grwpiau ethnig nad ydynt yn wyn). Rydym yn annog yn arbennig geisiadau gan artistiaid sydd â chysylltiadau â Chymru, neu os yw eich gwaith yn archwilio themâu diwylliant Cymreig, hunaniaeth, a'r croestoriad o brofiadau’r mwyafrif byd-eang yng Nghymru.

Y Comisiwn:

  • Cyllideb: £10,000 (i gynnwys deunyddiau, amser, teithio)
  • Dylai'r comisiwn arwain at waith celf gweledol newydd, a all fod mewn unrhyw gyfrwng gweledol. Mae hyn yn cynnwys, ond nid yw'n gyfyngedig i, baentio, cerflunio, ffotograffiaeth, neu grefft (e.e., cerameg, tecstilau, gwaith metel, gwaith coed).

OS byddwch yn cael eich comisiynu, byddwch yn cael eich gwahodd i fynd ar daith o ddatblygiad OM i drafod cartref addas ar gyfer y comisiwn mewn sgwrs gyda thîm OM.

Bydd y gwaith gorffenedig yn cael ei arddangos yn barhaol yn Oriel Myrddin ar ôl ei hail-lansio yn 2025.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech wybod mwy, mae croeso i chi anfon e-bost atom yn OMEducationQueries@carmarthenshire.gov.uk gyda’r llinell bwnc: “Oriel Myrddin Gallery Commission: Questions.” Byddwn yn ymdrechu i rannu'r holl gwestiynau (yn ddienw) a'r atebion i'r cwestiynau hynny yn gyhoeddus.

 

Dyddiadau Allweddol:

Dyddiad cau ar gyfer ymholiadau cais: 20 Rhagfyr 2024

Cyhoeddiad o gwestiynau ac atebion: 6 Ionawr 2025

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 19 Ionawr 2025

Hysbysu’r ymgeisydd llwyddiannus: Wythnos yn dechrau 27 Ionawr 2025

Cwblhau’r comisiwn: 30 Mai 2025

Dyddiad gosod y gwaith: Yn dilyn haf 2025

 

Sut i wneud cais:

I wneud cais, cyflwynwch:

  • Cynnig ysgrifenedig (uchafswm 500 o eiriau) yn amlinellu eich cysyniad ar gyfer y gwaith celf, sut mae'n cyd-fynd â'r thema o ddathlu pobl y mwyafrif byd-eang yng Nghymru, a'r effaith rydych yn anelu ati ar gyfer y gwaith. Neu, os yw’n well gennych, gallwch anfon recordiad sain neu fideo o hyd at 12 munud gyda’r wybodaeth uchod (os ydych yn cyflwyno’ch cais yn y fformat hwn, anfonwch ddolen yn hytrach na ffeil atodedig). Nid yw ansawdd cynhyrchu’ch recordiad yn effeithio ar eich cais, ond rhaid i’ch ymateb fod yn glywadwy ac yn glir i’r panel.
  • Datganiad artist a CV (uchafswm 2 ochr A4).
  • Portffolio (hyd at 10 delwedd) yn arddangos gweithiau perthnasol blaenorol.
  • Dadansoddiad cyllideb ar gyfer sut y bydd y £10,000 yn cael ei ddyrannu (dylai hyn gynnwys e.e. ffi, deunyddiau, costau teithio, ac ati)

Cyflwyno:

Dylai ceisiadau gael eu hanfon i OMEducationQueries@carmarthenshire.gov.uk gyda’r llinell bwnc: “Oriel Myrddin Gallery Commission: Call for Artwork Proposals.”

Ar ôl cyflwyno’ch cynnig, dylech dderbyn ymateb awtomatig yn cadarnhau bod eich e-bost wedi dod i law ac yn eich annog i gwblhau holiadur Cyfleoedd Cyfartal.

Y Broses Ddethol:

Bydd cynigion yn cael eu hadolygu gan staff OM a phanel o guraduron a chynghorwyr, gyda’r artist llwyddiannus yn cael ei hysbysu erbyn yr wythnos yn dechrau 27 Ionawr 2025. Nid oes cyfweliad, dim ond edrych ar eich cynnig y byddwn ni. Bydd y dethol yn seiliedig ar wreiddioldeb a dulliau newydd, perthnasedd i’r thema, a dichonoldeb y prosiect o fewn y gyllideb a’r amserlen a ddyrannwyd.

Bydd y panel yn asesu’r gwaith yn erbyn y meini prawf canlynol:

  • Gweiddioldeb – dulliau newydd at y gwaith hwn.
  • Perthnasedd – gwaith sy’n glir yn ymwneud â’r thema ac sy’n amlwg yn ymwneud â chyfraniadau pobl y mwyafrif byd-eang yng Nghymru, a’ch effaith ar hanes, diwylliant a hunaniaeth Cymru.
  • Dichonoldeb – dangos yn eich cais sut y gellir cynhyrchu’r gwaith o fewn yr amserlen a’r gyllideb o £10,000.

Y Detholwyr:

Catherine Spring – Rheolwr Oriel Myrddin

Helga Henry – Ymgynghorydd y Sector Diwylliannol

Cinzia Mutigli – Artist a Chyd-gyfarwyddwr G39

Marva Jackson Lord – Collagydd Digidol ac Ymgynghorydd Gwe

Dysgwch fwy a chyflwynwch gais ar gyfer cynigion gwaith celf Oriel Myrddin yma.