Llwybr Cerdd Casnewydd
Mae Llwybr Cerdd Casnewydd yn chwilio am fandiau, actau ac artistiaid i chwarae ar benwythnos olaf mis Mawrth 2026.
Mae'r digwyddiad hwn ar gyfer teuluoedd a phobl o bob oed, o bob cwr o’n cymunedau — bydd rhai o'r slotiau perfformio mewn busnesau neu ar y stryd fawr. Byddwn yn ystyried hyn wrth ddarllen yr holl geisiadau.
Gŵyl Casnewydd yw hon, felly bydden ni wir yn croesawu ceisiadau gan fandiau o Gasnewydd ac artistiaid o bob genre— yn enwedig y rhai sy'n creu deunydd gwreiddiol. (Wedi dweud hynny, mae pawb yn hoffi gwylio tribiwt act o bryd i’w gilydd!)
Bydden ni hefyd wrth ein boddau’n clywed gan artistiaid Cymraeg eu hiaith. Wrth gwrs, os nad ydych chi’n dod o Gasnewydd, mae croeso i chi wneud cais o hyd. Rydyn ni eisiau i'r digwyddiad fod mor bellgyrhaeddol a chyffrous ag sy'n bosibl!
Mae Llwybr Cerdd Casnewydd yn croesawu ceisiadau gan fandiau, DJs, artistiaid, corau, perfformwyr unigol, cerddorfeydd, pedwarawd, cerddorion unigol – unrhyw beth a phopeth! Os ydych chi'n gwneud cerddoriaeth, rydyn ni eisiau clywed gennych chi!
Gwnewch gais i chwarae yn Llwybr Cerddoriaeth Casnewydd yma.