• English
  • Cysylltwch â Ni
  • English

Jazz Cenedlaethol Ieuenctid Cymru

Mae Jazz Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn bartneriaeth uchelgeisiol newydd rhwng Jazz Explorers Cymru, Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Choleg Brenhinol Cerdd & Drama Cymru, wedi'u gefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru. Gyda'n gilydd, ein nôd yw adeiladu a datblygu rhaglen i feithrin, ysbrydoli a chefnogi talent cerddorion jazz ifanc ledled Cymru.

14-16 Ebrill 2025 yng Ngholeg Brenhinol Cerdd & Drama Cymru, Caerdydd.

Mae’r cwrs yn agored i offerynwyr a chantorion rhwng 14 – 22 mlwydd oed.

Nid oedd angen profiad blaenorol o chwarae jazz i ymgeisio, ond awgrymasom ni safon Gradd 5 (neu'r hyn sy'n gyfatebol) ar eich offeryn.

Bydd y cyfranogwyr yn cael ei rhannu i grŵpiau yn seiliedig ar oedran a profiad er mwyn sicrhau bod pawb yn derbyn yr addysg ar gefnogaeth angenrheidiol.

Y prif athrawon bydd Paula Gardiner, Huw Warren ac Andrew Bain (Pennaeth Adran Jazz, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru) – gyda chefnogaeth ychwanegol gan athrawon arbennigol eraill a rhai o'r myfyrwyr jazz.

Er bod cost lawn y cwrs wedi'i sybsideiddio gan y sefydliadau partner a Chyngor Celfyddydau Cymru, fe fydd yna gost i gyfranogwyr.

Mae lefel y ffi yn dibynnu ar yr angen am lety a pha mor bell yr ydych yn teithio. Mae bwrsariaethau hefyd ar gael i’r rhai o aelwydydd incwm is, er mwyn sicrhau bod pawb yn gallu cymryd rhan. Bydd y cwrs yn groesawgar ac yn gynhwysol, ond cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau.

Cost:

  • £165 ar gyfer cwrs yn unig
  • £165 ar gyfer cyrsiau a llety os ydych yn byw y tu allan i Gaerdydd
  • £240 ar gyfer cyrsiau a llety os ydych yn byw yng Nghaerdydd

Bydd cinio ar gael i bawb sy'n cymryd rhan. I'r rhai sy'n aros dros nos, byddwn hefyd yn darparu brecwast a chinio. Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion dietegol yn y ffurflen gofrestru.

Mae bwrsariaethau ar gael, yn seiliedig ar incwm y cartref - manylion pellach yma.