Cwrs Preswyl Jazz Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
Mae Celfyddydau Ieuenctid Cenedlaethol Cymru yn dychwelyd yr haf yma gyda Chwrs Preswyl Jazz Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, rhwng 25 a 28 Awst yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd.
Mae’r Cwrs Preswyl yn agored i bobl ifanc 14 oed a hŷn. Nid yw’n addas ar gyfer dechreuwyr llwyr — fel canllaw, dylai cyfranogwyr fod tua Gradd 3 neu’n uwch — ond y peth pwysicaf yw eich bod yn angerddol am jazz ac yn barod i ddysgu, chwarae a chydweithio.
Dysgwch fwy am y cwrs a sut i wneud cais ar wefan NYAW.