Cronfa Launchpad BBC Gorwelion
Nod y Gronfa Launchpad yw helpu artistiaid neu fandiau dawnus yng Nghymru i ddatblygu eu gyrfaoedd cerddorol drwy roi mynediad hanfodol iddynt at gyllid. Gall artistiaid, bandiau neu labeli cymwys wneud cais. Yn rhan o gynllun Gorwelion, mae’r gronfa Launchpad yn adnodd sy’n helpu artistiaid neu fandiau talentog yng Nghymru i ddatblygu eu gyrfaoedd cerddorol drwy roi mynediad hanfodol iddynt at gyllid.
Mae Launchpad, fel yr awgrymir gan yr enw, ar gyfer y rhai sy'n cychwyn ar eu taith gerddorol, ar bwynt hollbwysig yn eu datblygiad. Ei ddiben yw helpu i gefnogi gweithgareddau a fydd yn helpu cerddorion i gyflawni eu potensial. Mae Gorwelion yn chwilio am artistiaid/bandiau a all ddangos diddordeb gan gynulleidfaoedd a’r rhai sy’n gweithio yn y diwydiant cerddoriaeth (fel labeli neu feirniaid) ond sydd angen cefnogaeth i’w galluogi i gyflawni gweithgaredd a fydd yn eu galluogi i gynyddu eu cyrhaeddiad.
Gall artistiaid, bandiau neu labeli o Gymru wneud cais ond rhaid i'r gweithgaredd ganolbwyntio ar yr artist. Mae Gorwelion yn arbennig am gefnogi ceisiadau gan artistiaid lliw du a di-ddu ac artistiaid ag anableddau. Rydym yn cefnogi artistiaid a bandiau gwreiddiol o bob genre cerddoriaeth anglasurol.
Bydd Gorwelion yn cynnig dyfarniadau o hyd at £2,000 yr un.
Darganfyddwch fwy a gwnewch gais yma.