• English
  • Cysylltwch â Ni
  • English

Help Musicians - MOBO Help Musicians Amplified

Os ydych chi’n gynhyrchydd, DJ neu gerddor sy’n creu neu’n perfformio cerddoriaeth o darddiad Du – heb gefnogaeth ariannol na’r adnoddau i ddilyn cyfle allai newid eich gyrfa – mae’r cymorth yma wedi’i greu ar eich cyfer chi.

Mewn partneriaeth â MOBO Trust, rydan ni wedi buddsoddi bron i £1 miliwn hyd yma ar gyllid, mentora a chymorth ymarferol – i helpu cerddorion sy’n creu cerddoriaeth o darddiad Du i droi uchelgais yn weithredu. A dyma ni ar ddechrau’r daith.

Mae MOBO Help Musicians Amplified yn rhaglen 12 mis sy’n rhoi’r cyfle i chi gysylltu ag artistiaid eraill, cael cyngor busnes, adeiladu eich rhwydwaith diwydiant a derbyn cyllid tuag at brosiect cerddoriaeth eich hun.

Pwy mae’r cymorth yma ar ei gyfer?

Mae’r cymorth yma i gerddorion sy’n chwilio am gam nesaf neu sydd eisiau ehangu eu gyrfa – pobl sy’n gweithio mewn un neu fwy o’r genreau yma:

  • Hip-Hop
  • Grime
  • Drill
  • R&B / Soul
  • Cerddoriaeth Affricanaidd
  • Cerddoriaeth Electronig / Dawns
  • Gospel
  • Jazz
  • Cerddoriaeth Caribïaidd
  • Cerddoriaeth Amgen

Efallai eich bod chi’n artist newydd efo’r momentwm cywir i ryddhau eich EP cyntaf, neu’n gynhyrchydd profiadol sy’n awyddus i fentro i berfformio’n fyw.

Mae’r meini prawf llawn a’r hyn mae’r panel yn chwilio amdano ar gael yn y canllaw gwneud cais.

Beth sydd yn rhan o’r wobr yma?

  • Hyd at £3,000 tuag at brosiect cerddoriaeth eich hun
  • 6 awr o gyngor busnes 1-i-1 gan arbenigwyr yn y diwydiant
  • Cyfarfodydd ar-lein efo artistiaid eraill a gwesteion o’r diwydiant, a chostau i fynychu digwyddiad un-dydd arbennig yn Llundain
  • Sesiynau galw heibio ar-lein misol efo cerddorion eraill (dewisol)
  • Mynediad at sesiwn ymarfer iach gan BAPAM (dewisol)

Pryd alla i wneud cais?

Dydd Llun 2 Mehefin, 9yb – Dydd Gwener 27 Mehefin, 5yh

Dysga fwy yma: https://www.helpmusicians.org.uk/get-support/develop-as-a-musician/mobo-help-musicians-amplified