Gwerin Gwallgo
Cwrs preswyl bywiog i bobl ifancu o 11 i 18 mlwydd oed yw Gwerin Gwallgo . Mae’r cwrs pedwar diwrnod yn digwydd yng Nglanllyn, canolfan breswyl yr Urdd yn y Bala. Mae yna llefydd ar gael i hyd at 40 o bobl ifanc.
Dyddiadau | 28ain – 31ain o Hydref 2024
Bydd gweithdai offerynnol, canu a chlocsio yn ystod y dydd, yn dilyn sesiynau anffurfiol, cyngherddau, twmpathau, a mwy gyda’r nos! Bydd cyfle hefyd i gymryd rhan yn rhai o’r gweithdai awyr agored sydd gan Glan-llyn i’w gynnig. Tua diwedd y cwrs, bydd cyfle i berfformio.
Pris y cwrs: £290
Mae gennym ddeg o lefydd bwrsari ar gael - Bwrsari: £50
Darganfyddwch fwy ac archebwch le ar wefan TRAC.