• English
  • Cysylltwch â Ni
  • English

Escape Records: Cyfleoedd

Mae gan Escape Records ystod eang o gyfleoedd gwaith ar gael

Mae lansiad Escape Records yn ddatblygiad enfawr sy'n gweld y label recordiau newydd sbon, yn ogystal â'u holl wyliau a nosweithiau clwb presennol yn dod o dan frand newydd cyffrous.

Mae cyfleoedd yn cynnwys

Gwirfoddolwyr: Rhan allweddol o wneud profiad y cwsmeriaid yn wirioneddol gofiadwy. Cymerwch ran y tu ôl i'r llenni a helpwch i wneud digwyddiadau anhygoel.

Perfformwyr: Mae'r label bob amser yn chwilio am berfformwyr rhyfedd a rhyfeddol i'w rhyfeddu!

Y Cyfryngau a'r Wasg: Byddwch yn rhan o'r mudiad a helpwch nhw i ledaenu'r gair am Escape Records.

DJs: Mae'r label wedi sefydlu eu hacademi DJs yn ddiweddar ac wrth eu bodd yn cael talent lleol ar y llwyfan mawr yn eu digwyddiadau.

Artistiaid a Bandiau: Mae Escape Records yn chwilio am actau byw a all swyno cynulleidfa a chynnig rhywbeth unigryw.

Llysgenhadon: Curiad calon eu tîm; y cyntaf i glywed yr holl newyddion diweddaraf, diweddariadau, cyhoeddiadau artistiaid ac yn cymryd rhan yn eu penderfyniadau mawr. Wrth gwrs, mae digon o nwyddau am ddim wedi'u cynnwys hefyd!

Dylanwadwyr: Byddwch yn rhan o’u rhaglen dylanwadwyr a helpwch ni i ledaenu’r gair am Escape Records a’i holl bethau ychwanegol cyffrous. Fel aelod, fe gewch chi lawer o bethau am ddim hefyd!

https://escaperecords.co.uk/join-the-family/