CULTVR LAB - Perfformio Cerddoriaeth Electronig efo Ableton Live
Mae'r Summer Academy nôl: Perfformio cerddoriaeth electronig efo Ableton Live
Mae'r cwrs dwys yma dros y penwythnos yn mynd i helpu i wneud pethau'n gliriach o ran sut i greu system fyw ar gyfer perfformio cerddoriaeth electronig gan ddefnyddio Ableton Live. Byddwn ni’n edrych ar wahanol opsiynau caledwedd a meddalwedd i greu set sy’n cynnwys sequencin, trefnu, dylunio sain a mixio yn fyw. Bydd cyfle i ti ddylunio a chreu dy system dy hun, ac i gael adborth personol hefyd.
Lleoliad: CULTVR, Caerdydd, CF11 8TT
Dyddiadau: Dydd Sadwrn 2il / Dydd Sul 3ydd o Awst 2025
Amser: 10:30–17:00
Cost: £150 / £100 (myfyrwyr – consesiynau) Link yn y Bio
Uchafswm o 16 o bobl – Does dim angen unrhyw brofiad o gwbl!
Beth fyddi di’n dysgu:
- Esboniad o wahanol systemau perfformio’n fyw
- Sut i ddylunio a chreu system bwrpasol gan ddefnyddio Ableton Live
- Gweithio gyda sain ar gyfer remixio’n fyw
- Integreiddio MIDI i gael mwy o hyblygrwydd ac opsiynau improv
- Mapio MIDI a gweithio efo controllers
- Defnyddio offerynnau ac effeithiau allanol
- Adeiladu a siapio sioe fyw lawn
Beth sydd angen i ti ddod efo:
- Dy liniadur dy hun (PC neu Mac) a’i charger
- Fersiwn o Ableton Live wedi’i osod – o leiaf y treial 30-diwrnod
- Dy ddeunydd cerddorol dy hun i weithio arno (neu bydd adnoddau ar gael)
- Clustffonau wired (a phlwg os oes angen)
- Controller(s) MIDI
Perffaith i DJs, cerddorion, cyfansoddwyr – neu unrhyw un sydd jest yn chwilfrydig am sain!
Ca’ dy docyn ar gyfer y cwrs dwys penwythnos fan hyn: BEGINNER'S SUMMER COURSE / Electronic music performance with Ableton Live