Citrus Arts - Cywion Celf
Mae Citrus Arts yn chwilio am bobl ifanc rhwng 18-30 oed i ddod i ymarfer gyda nhw yn y sgiliau technegol celfyddydau awyr agored.
Bydd y hyfforddeion yn cael eu talu i fynychu ac yn dysgu:
- Ragarweiniad i rigio a gwrthbwyso syrcas
- Lanternau, goleuo awyr agored a thân
- Weldio
- Uwchadeiledd a chynhyrchu gwyliau
Dyddiadau’r Cwrs:
- Cwrs 1: 17 Chwefror - 8 Mawrth 2025
- Cwrs 2: 17 Mawrth - 5 Ebrill 2025
Bydd y sesiynau hyfforddi yn cael eu cynnal yn sylfaen Citrus Arts yn Hopkinstown Hall ac mewn lleoliadau awyr agored (y byddwn yn teithio gyda’n gilydd fel y bo’r angen).
Bydd y hyfforddeion yn cael eu talu'r Cyflog Byw Cenedlaethol.
Does dim angen unrhyw brofiad blaenorol, ond mae angen i chi fod â diddordeb mewn creu digwyddiadau awyr agored cyffrous sy'n dod â chymunedau at ei gilydd ac yn chwilfrydig am sut mae popeth yn gweithio!
Rhaid i chi fod ar gael ar gyfer y cwrs cyfan.
I ddarganfod sut i wneud cais i unrhyw un neu i gyd o'r cyrsiau, neu i drafod unrhyw gwestiynau sydd gennych am berson ifanc, eich argaeledd, neu unrhyw gwestiynau eraill, cysylltwch â Beth ar beth@citrusarts.co.uk neu 07785 947823.
Os hoffech drafod yn Gymraeg, cysylltwch â Beth fel y gellir trefnu hyn.
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw: dydd Sul, 19eg Ionawr, 5pm.