Britten Pears - Rhaglen Artist Ifanc
Mae Britten Pears yn chwilio am artistiaid ifanc eithriadol sy'n dod i'r amlwg (18 oed neu'n hŷn) sydd â diddordeb mewn cyfleoedd cyffrous i fireinio eu sgiliau ymhellach a derbyn mewnbwn gwerthfawr gan weithwyr proffesiynol yn y diwydiant.
Yn gyffredinol, daw artistiaid ifanc ar ein cyrsiau unwaith y maent wedi graddio o hyfforddiant ffurfiol neu'n gorffen eu haddysg, ond nid oes unrhyw derfyn oedran uchaf penodol i wneud cais.
Gall bod yn gynnar yn eich gyrfa edrych yn wahanol i wahanol artistiaid, ac mae Britten Pears yn croesawu'r rheini sydd wedi dilyn llwybrau hyfforddi nad ydynt yn draddodiadol.
- Nid oes unrhyw ffioedd cwrs, ac mae Britten Pears yn talu costau teithio rhyngwladol a'r DU ynghyd ag arhosiad lleol yn Aldeburgh.
- Nid oes unrhyw ffioedd cais.
- Ar hyn o bryd mae gan Britten Pears gyfleoedd ar gyfer cantorion, pianyddion cydweithredol, ensembleau siambr, cyfansoddwyr ac artistiaid perfformio cyfoes yn eu rhaglen 2025–26.
Dysgwch fwy am y Rhaglen Artist Ifanc, a chliciwch ar y fideo isod:
Cyrsiau 2025–26:
Adeiladu Rhaglen Cyngerdd
- Arweinir y cwrs preswyl wyth diwrnod hwn gan Roderick Williams, Malcolm Martineau a Julia Faulkner, gan gynnig cyfle i ail-ddychmygu eich dull o greu rhaglen cyngerdd caneuon. Agored i gantorion a pianyddion cydweithredol.
Cyfansoddi, Perfformiad Amgen ac Ymarfer Perfformiad
- Mae'r cwrs saith diwrnod hwn ar gyfer gwneuthurwyr sain sy'n cyfrannu’n frwd at waith gwreiddiol newydd. Gyda Larry Goves, Sarah Hennies a chwaraewyr ensemble The House of Bedlam yn arwain, bydd cyfranogwyr yn creu ac yn trafod gwaith newydd gyda’i gilydd (a phob yn ail), gan weithio tuag at arddangosfa yn Ŵyl Aldeburgh yn 2026.
Cerddoriaeth Siambr mewn Preswyliad
- Cyfres o breswyliadau pythefnos ar gyfer ensembleau siambr presennol, wedi’u canolbwyntio ar amser a lle i ddatblygu fel grŵp ar ein campws creadigol yng nghefn gwlad Suffolk. Bydd preswyliad yn cynnwys dau berfformiad yn ein cyfres cyngerdd amser cinio ar ddydd Gwener yn Neuadd Jiwbilî Aldeburgh.
Dysgwch fwy am sut i wneud cais, a chyflwynwch gais ar gyfer Rhaglen Artist Ifanc Britten Pears yma.
Rhaid cyflwyno ceisiadau cyn 1yp (Amser y DU) ddydd Llun 17 Chwefror 2025.