Beacons Cymru x PPL - Ffurlfen Gais Cerddor Sesiwn / Cynhyrchydd
Mae Beacons Cymru yn falch iawn o gyhoeddi cyfle cyffrous i gerddorion sesiwn a chynhyrchwyr y dyfodol trwy Gymru i fynd gydag artistiaid o Brosiect Forté mewn cydweithrediad gyda PPL Giving. Ym mis Gorffennaf 2025, bydd tri artist unigol yn cael cwmni detholiad o gerddorion sesiwn a chynhyrchwyr i drefnu a recordio trac mewn stiwdio broffesiynol.
A’i dyma’r cyfle i chi?
Ni'n edrych am:
- 9 cerddor sesiwn
- 3 cynhyrchydd
i fynd gyda 3 artist unigol o deulu presennol Forté. Ar y cyd ag artist, byddwch yn cydweithio i drefnu, ymarfer, a recordio trac mewn stiwdio recordio broffesiynol.
Am bwy ydyn ni’n edrych?
Rydym yn chwilio am ddarpar gerddorion sesiwn a chynhyrchwyr sydd wedi'u lleoli ledled Cymru. Mae gennym ddiddordeb mewn gweithio gyda, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- Drymwyr
- Offerynnau llinynnol
- Offerynnau allweddellau
- Offerynnau pres
- Baswyr
- Gitaryddion
- Cantorion cefndir
- Cynhyrchwyr mewn unrhyw genre
- Unrhyw offeryn arall
Pa gyfleoedd gewch chi?
- Cyfle cyflogedig (ar gyfer gwaith sesiwn a/neu waith cynhyrchu)
- Gweithdai a dosbarthiadau meistr defnyddiol mewn gwaith sesiwn, recordio, cynhyrchu ar gyfer artistiaid a busnes cerddoriaeth
- Sesiwn ar-lein ar PPL gyda chanllawiau ar sut i gofrestru ar ei gyfer
- Sgil proffesiynol a chyfle i ddatblygu rhwydwaith
- Trac llawn wedi'i gynhyrchu a'i ryddhau trwy label Beacons Cymru gyda'ch enw yn y credydau
- Costau teithio wedi'u had-dalu
Cymwysterau:
- 18+ oed
- Wedi'i leoli yng Nghymru
- Bod â lle ac argaeledd ar gyfer ymarferion a recordio ym mis Mehefin a mis Gorffennaf 2025 (ar gyfer cerddorion sesiwn)
- Bod â chapasiti ac argaeledd ar gyfer cynhyrchu, cymysgu a meistroli gwaith ym mis Gorffennaf ac Awst 2025 (ar gyfer cynhyrchwyr)
Dyddiad cau:
23:59, 7ed o Fai 2025.
Tâl yn seiliedig ar gyfraddau'r Musicians Union.
PWYSIG: Mi fydd angen recordiad sain neu fideo o'ch perfformiad / gwaith er mwyn i ni allu prosesu'ch cais. Atodwch fel dolen breifat YouTube / Soundcloud yn y maes gofynnol isod.
Gwnewch gais am Beacons Cymru x PPL - Ffurlfen Gais Cerddor Sesiwn / Cynhyrchydd yma.