• English
  • Cysylltwch â Ni
  • English

Porth Anthem - Galwad am Grewyr Cerddoriaeth!

Yn dilyn cyhoeddi buddsoddiad Cymru Greadigol yn ein platfform digidol arloesol y Anthem Gateway, rydyn ni ar dân i ddechrau gweld ei botensial a chreu profiad ar-lein o ansawdd uchel i bobl ifanc dan arweiniad lleisiau creadigol ifanc o bob rhan o Gymru.

Credwn fod cerddoriaeth yn rym creadigol cryf sy’n bwydo hunan-fynegiant, datblygiad personol, a lles, a gyda’ch cymorth chi gall Porth Anthem fod yn bont hanfodol i bobl ifanc i’r diwydiant cerddoriaeth.

Y mis hwn rydyn ni’n dechrau ar y broses o gomisiynu pobl newydd sy’n creu cerddoriaeth, yn y Gymraeg a’r Saesneg, a chynnig cyfleoedd â thâl i ddatblygu ein cylch nesaf o adnoddau. Os ydych chi’n gerddor neu’n hyrwyddwr lleol sydd â dealltwriaeth i’w rhannu, yn godwr arian cymunedol sy’n ymwneud â cherddoriaeth, yn ddarpar farchnatwr neu’n rhywun sydd â rhywbeth i’w ddweud am gyflwr cerddoriaeth heddiw, rydyn ni’n chwilio am bobl ifanc o bob cefndir ac o bob rhan o Gymru i’n helpu i fynd i’r afael â phynciau sy’n berthnasol i chi.

Os ydych chi’n creu fideos, yn ysgrifennu blogiau/erthyglau, yn cynhyrchu podlediadau neu ddigwyddiadau, neu efallai hyd yn oed rhywbeth yn y canol, ac yn eich ystyried eich hun fel crëwr cynnwys newydd cyffrous a deniadol, rydyn ni eisiau gweithio gyda chi ar y meysydd a’r elfennau canlynol o gynnwys.

  • Blogiadau / Erthyglau
  • Podlediadau
  • Fideos
  • Ffeithluniau
  • Canllawiau Sut i Wneud
  • Gweminarau

I gael rhagor o wybodaeth am sut i ddod yn grëwr cerddoriaeth newydd ar gyfer Porth Anthem a sicrhau bod eich syniadau, eich cyflwyniadau a’ch llais yn cael eu clywed, anfonwch e-bost i Richard S Jones: richard.jones@anthem.wales