• English
  • Cysylltwch â Ni
  • English

Cynllun ALLBWN / OUTPUT

Mae sîn gerddoriaeth Caerdydd i gael hwb arall yn 2026 wrth i gynllun cyllido ALLBWN / OUTPUT Cyngor Caerdydd ddychwelyd, yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus yn gynharach eleni, gyda chylch gwaith estynedig i gefnogi artistiaid electronig a DJs newydd ac sy’n dod i’r amlwg, yn ogystal â gigs.

Gyda’r nod o annog hyrwyddwyr i gymryd mwy o risgiau a chynyddu’r cyflenwad o artistiaid newydd addawol sy’n chwarae yn lleoliadau annibynnol y ddinas yn ystod misoedd cynnar tawel y flwyddyn, mae ALLBWN / OUTPUT yn gwarantu hyrwyddwyr sy’n ennill cymorth drwy’r cynllun rhag colledion ariannol o hyd at £1,000 ar ddigwyddiadau.

Mae Dinas Gerdd Caerdydd yn falch o gyflwyno cynllun peilot newydd i gefnogi hyrwyddwyr mewn lleoliadau cerddoriaeth bach a llawr gwlad yn y ddinas. Bydd ALLBWN / OUTPUT yn rhoi gwarant rhag colli hyd at £1,000*. Bydd y cynllun hwn, sydd wedi’i gynllunio i gynyddu nifer y gigs yn y ddinas, ar agor i hyrwyddwyr newydd yn ogystal â’r rheini sydd eisoes â phrofiad yn y maes. Bydd hefyd yn agored i fandiau lleol a hoffai hyrwyddo eu gigs eu hunain.

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth a sut i wneud cais yma:

https://dinasgerddcaerdydd.cymru/diwydiant/allbwn-output-2025-2026/

Meini prawf ALLBWN / OUTPUT:
Rhaid cynnal y gig yng Nghaerdydd mewn Lleoliad Cerddoriaeth ar Lawr Gwlad neu mewn gofod priodol.
Rhaid i’r gig fod yn ddigwyddiad lle mae angen talu am docyn.
Rhaid talu pob band.
Rhaid i gyfanswm y risg a warantir fod yn llai na £1,000.
Rhaid i’r pwynt adennill costau fod dan 80% o werthiant tocynnau.
Rhaid i’r rhan fwyaf o’r deunydd fod yn wreiddiol.
Mae’n rhaid i’r ymgeisydd fod yn 18+.
Mae ceisiadau am gymorth drwy gynllun ALLBWN / OUTPUT ar agor tan 6 Chwefror 2026.  Rhaid i’r gigs gael eu cynnal cyn 15 Mawrth 2026.