GALWAD ACADEMI LEEWAY- 'Join the Dots'
Mae Cynyrchiadau Leeway, , mewn partneriaeth â Valleys Kids yn lasio Academi Leeway, academi theatr gerddorol ar lawr gwlad i bobl ifanc 14–25 oed – ac rydym yn awyddus i glywed gennych chi.
Bydd ‘Join the Dots’ yn eich gweld yn gweithio gydag awduron a chyfansoddwyr proffesiynol ac yn creu a pherfformio’n fyw mewn sioeau gerdd fach newydd sbon, a’r cyfan yn seiliedig ar straeon rydych chi am eu hadrodd. Ynghyd â chyfarwyddwr, byddwch yn creu gwaith i’w berfformio yn Y factori, Porth 2023 ac Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024.
Ystod oedran: 14–25 oed
Mae hwn yn gyfle dwyieithog, ac rydym yn annog y rhai ohonoch nad ydych yn siaradwyr Cymraeg rhugl, ond sy’n awyddus i weithio mwy yn y Gymraeg, i wneud cais ac ymuno gyda ni.
Lleoliad: Y Factori, Porth
Dyddiau: Nosweithiau Mawrth
Amser:: 6-8pm
Dyddiadau: Ebrill 25- 27 Mehefin 2023
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Leeway Productions.