• English
  • Cysylltwch â Ni
  • English

Arolwg Anthem Gateway

Rydyn ni eisiau clywed eich llais!

Dros y 15 mis nesaf, bydd tîm Anthem Gateway yn mireinio’r platfform, gan ei wneud yn fwy hylaw i ddefnyddwyr ac yn hawdd ei lywio. Bydd 40 o adnoddau newydd yn cael eu creu gan gynnwys adnoddau ar-lein, cyfres o dri phodlediad a 6 gweminar dan arweiniad pobl ifanc greadigol.

Josiah Graves - Llais Ategol

Josiah Graves, myfyriwr trydedd flwyddyn Busnes Cerddoriaeth ym Mhrifysgol De Cymru. Fel rhan o'i brosiect traethawd hir, mae e’n datblygu cynllun busnes ar gyfer sefydliad sy’n anelu at greu mwy o gydraddoldeb yn y diwydiant cerddoriaeth.

Lila - The South Asian Soundcheck

Mae arolwg Asian Soundcheck yn casglu profiadau go iawn a gonest gan weithwyr proffesiynol cerddoriaeth o dras De Asiaidd – gan helpu’r diwydiant cerddoriaeth yn y DU i ddeall, cefnogi a hyrwyddo talent De Asiaidd wrth iddi gamu i ganol llwyfan.