Wyl Bro Morgannwg - Grantiau Cymynrodd
Ar ôl dros 55 mlynedd o hyrwyddo gwaith cyfansoddwyr byw, gwneud gwaith ymgysylltu â chynulleidfaoedd yn Ne Cymru a thu hwnt, a meithrin partneriaethau rhyngwladol unigryw, mae Gŵyl Bro Morgannwg wedi dod i ben.
Bydd nifer cyfyngedig o grantiau rhwng £2k a £6k yn cael eu dyfarnu i gynigion sy’n rhoi llwyfan i waith cyfansoddwyr clasurol cyfoes sy’n dod o Gymru, a gwaith sy’n dangos cydweithredu rhwng cyfansoddwr / cyfansoddwyr a pherfformiwr / perfformwyr.
Mae’r gronfa gyfan tua £23k, a rhagwelwn y rhoddir un neu ddau o grantiau ar y trothwy uchaf, ynghyd â nifer o ddyfarniadau llai.
Bydd y grantiau yn cael eu gweinyddu gan Tŷ Cerdd ar ran yr Ŵyl.
I Wneud Cais:
Rydym am i’r broses fod mor rhwydd â phosibl, felly rydym ond yn gofyn i chi lanlwytho’r wybodaeth ganlynol i’n PORTH:
1. Manylion personol: enw (ac enw’r sefydliad os yw’n berthnasol), cyfeiriad e-bost, rhif ffôn symudol, cyfeiriad, cadarnhad eich bod dros 18 oed. Sylwer: Rhaid i’r cais gael ei wneud gan unigolyn neu sefydliad sydd wedi’u lleoli yng Nghymru.
2. Soniwch amdanoch eich hun: Disgrifiwch waith yr ymgeisydd ym maes cerddoriaeth newydd (unigolyn neu sefydliad, pwy bynnag yw’r ymgeisydd)
3. Eich cynnig: Beth ydych chi am ei wneud? Beth yw’r gerddoriaeth a gaiff ei pherfformio? Sut bydd eich gwaith yn hyrwyddo’r cyfansoddwr/cyfansoddwyr? Beth yw manylion y perfformiad (lleoliad, perfformwyr, dyddiadau, etc)? Cofiwch roi gwybodaeth am y bartneriaeth sy’n gweithio ar y prosiect hwn, yn ogystal â dyddiadau dechrau a gorffen eich gweithgarwch. Dim mwy na 500 gair
4. Eich cyllideb: Lanlwythwch dudalen cyllideb syml, yn manylu ar incwm a gwariant. Sylwer: efallai eich bod yn bwriadu defnyddio’r gronfa hon fel yr unig incwm, neu gall fod yn rhan o gyllideb prosiect mwy o faint. Os oes angen cymorth arnoch, anfonwch e-bost atom.
5. Enghreifftiau o gerddoriaeth: atodwch 2-6 dolen neu atodiad i’r crewyr cerddoriaeth yr ydych am eu hyrwyddo (anfonwch ddolenni yn hytrach na ffeiliau sain neu fideo; os oes angen help arnoch i greu dolenni, rhowch wybod i ni.)
Cewch roi rhan o’ch cais ar fideo neu ffeil sain, os yw hynny’n haws i chi.
Recordiwch eich atebion i gwestiynau 2 a 3, uchod (hyd at 5 munud), a lanlwythwch ddolen i’ch recordiad, gan ychwanegu’r wybodaeth y gofynnwyd amdani yng nghwestiynau 1, 4 a 5 i’r ffurflen lanlwytho. Os oes angen help arnoch i greu dolen i’ch fideo, neu help i lanlwytho’ch gwybodaeth, anfonwch e-bost atom am help.
Amserlen a'r Broses:
- Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 1200 ganol dydd ar ddydd Llun 20 Ionawr
- Panel: John Metcalf, Steph Power (cyfansoddwr), Deborah Keyser (Cyfarwyddwr Tŷ Cerdd)
Byddwn yn rhoi gwybod y canlyniad i chi yn ystod yr wythnos sy’n dechrau dydd Llun 3 Chwefror
Nodiadau Ychwanegol:
Genre cerddorol: Rydym am ddenu’r rhychwant ehangaf bosibl o grewyr cerddoriaeth o’r arddulliau “clasurol cyfoes” (gan gynnwys traddodiadau llai cynrychioliadol, a heb eu cyfyngu i’r clasurol Gorllewinol) – o nodiant i fyrfyfyr, i’r arbrofol a ddim yn nodiant…
Creawdwyr cerddoriaeth o Gymru: Mae’r gronfa hon yn cefnogi gwaith cyfansoddwyr o Gymru. Os yw’r cyfansoddwr sy’n cael ei gynrychioli wedi bod yn byw yng Nghymru ers o leiaf blwyddyn, neu os cafodd ei eni yng Nghymru, maent yn gymwys.
Amrywiaeth: Rydym yn awyddus i dderbyn ceisiadau gan unigolion sy’n cael eu tangynrychioli / sydd wedi eu hallgáu neu eu hesgeuluso gan y gymuned gelfyddydol; rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan bobl anabl, pobl Ddu, pobl Asiaidd a rhai ag ethnigrwydd amrywiol, pobl LGBTQ+, a phobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is.
Unigolion: i fod yn gymwys i ymgeisio fel unigolyn, mae’n rhaid i chi fod:
- dros 18 oed ac yn byw yng Nghymru.
- yn gallu gwneud cais yn enw cyfreithiol yr unigolyn sy’n gwneud y cais.
- yn meddu ar gyfrif banc yn eich enw cyfreithiol.
Os oes gennych ddiddordeb, ond mae gennych ambell gwestiwn…
…mae’n ddigon rhwydd i ni sgwrsio â chi dros y ffôn neu dros Zoom – anfonwch e-bost bach i ni drefnu galwad. Mi wnawn ni drio ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am y gronfa a’r broses.