Sain i'r Sgrin
Mae SAIN I’R SGRIN Anthem yn ddigwyddiad am ddim sy’n cael ei gynnal ar Ddydd Sadwrn 21 Chwefror yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter yng Nghaerdydd. Mae wedi’i ddylunio i gynnig cipolwg ar lwybrau gyrfa sy’n gysylltiedig â chreu cerddoriaeth ar gyfer y sgrin.
Dyddiad Cau: 21st February 2026
Anthem FFWD>>
Ydych chi rhwng 17 a 25 oed, yn seiliedig yng Nghymru a gyda ddiddordeb mewn cerddoriaeth? Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth, helpu i greu llwybrau i bobl ifanc gael i mewn i gerddoriaeth, a chyflymu eich datblygiad personol mewn cerddoriaeth yng Nghymru? Ymunwch â ni – mae lle i chi yn Anthem FFWD>>!
Dyddiad Cau: 5pm Monday 23rd February 2026
Porth Anthem - Galwad am Grewyr Cerddoriaeth!
Ydych chi’n gerddor, yn creu ffilmiau, yn flogiwr, yn ddarlunydd, yn weithiwr proffesiynol yn y diwydiant, neu’n rhywun sydd â phrofiad i’w rannu?
Os ydych chi, rydyn ni am eich comisiynu chi a’ch syniadau ar gyfer Porth Anthem!
Arolwg Anthem Gateway
Rydyn ni eisiau clywed eich llais!
Dros y 15 mis nesaf, bydd tîm Anthem Gateway yn mireinio’r platfform, gan ei wneud yn fwy hylaw i ddefnyddwyr ac yn hawdd ei lywio. Bydd 40 o adnoddau newydd yn cael eu creu gan gynnwys adnoddau ar-lein, cyfres o dri phodlediad a 6 gweminar dan arweiniad pobl ifanc greadigol.