Nodiadau Niwro Amrywiol
Gan: Mali Hâf
Niwro-amrywliol - Dyma air sydd wedi newid mewn ystyr i mi dros y blynyddoedd - sut dwi’n ymateb iddo, sut dwi’n ei ddeall, pa le mae’n cymryd yn fy hunaniaeth. Yn ddiweddar, dechreuais bendroni, ydy e’n ffordd arall o ddweud “ymenydd creadigol”?
Fy enw i yw Mali Hâf. Dwi’n artist Cymreig o Gymru. Cefais ddeiagnosis ADHD pan roeddwn yn 16 - dwi’n 28 nawr - felly dwi wedi byw drwy’r newid o fewn sut mae pobl yn siarad amdano, ei ddeall, ac ymateb iddo. Ar y pryd, roedd fy neiagnosis yn cael ei ystyried yn un hwyr. Roedd bod yn ferch, hefyd, yn golygu fod lot ohono yn cael ei gamddeall, neu ei fethu yn gyfan gwbl.
.jpg)
Wrth edrych nol ar beth wyddwn ni nawr, mae’n ryfedd meddwl faint o unig roeddwn i’n teimlo o fewn e. Doeddwn i ddim rili yn siarad amdano gyda’m ffrindiau. Yn rhannol oherwydd doedd neb arall i’w weld yn cael yr un profiad (hyd y gwyddwn i), ond hefyd oherwydd roeddwn i dal yn ceisio ei ddeall fy nhun - beth oedd e’n meddwl, a sut oedd e’n ffitio mewn i bwy o’n i.
Newidiodd ysgol wedi’r diagnosis. Dim yn ddramatig, ddim yn hudol - ond yn sylweddol. Mi fyswn yn canolbwyntio ar bethau roeddwn yn ei garu am hirach. Mi ddechreuais i wneud synnwyr o agweddau penodol o’n hunan. Pam teimlais i’n wahanol. Pam mai fi oedd hyd yr un oedd bach yn anrhefnus, bach yn ddwys, bach yn “quirky” o fewn bob grŵp ffeindiais fy nhun o fewn.
Wedyn es i i’r brifysgol.
Roeddwn i wedi bod ar feddyginiaeth ers fy neiagnosis, a mewn rhai ffyrdd disgwylais buasai hynny’n gwneud pethau’n haws. Ond i fod yn onest, roedd prifysgol yn anoddach mewn ffordd hollol wahanol. Roedd yna lawer llai o gefnogaeth, ac yn sydyn roedd yna olau llachar ar sgiliau cymdeithasol, annibynniaeth, trefniant - popeth mae nifer o bobl niwro-amrywliol yn cael trafferth gyda a cheisio’i fasgio. Mi naeth e hefyd wneud i mi sylweddoli pa mor gyfforddus teimlais nol adref yng Nghymru.
Nawr, ni fyswn byth yn dweud wrth rywun i beidio mynd i’r brifysgol. Ond gallai ddim pwysleisio mwy pa mor anodd gall yr amgylchedd yna fod i rywun sy’n niwro-amrywiol. Dechreuais i golli fy nghariad at gerddoriaeth. Roeddwn yn cael pyliau panig pan yn siarad â phobl. Rhai diwrnodau nid oeddwn yn gallu codi o fy ngwely i wneud tasgiau syml.
Dwi ddim eisiau troi hwn mewn i stori fy mywyd - dwi ddim yn siwr os dyna beth mae unrhyw un eisiau ei ddarllen - ond neidiwn ni ymlaen ychydig, a dwi wedi gadael Leeds a symud nol adref i Gaerdydd.
Ac yn wir, dechreuais i eto.
Y tro hwn gyda llawer mwy o ddealltwriaeth o’m ymenydd. Disgynnais yn ôl mewn cariad â chreu. Teimlais yn hapusach wrth fod adref. Dod yn ôl at fy nghoed. Yn fwy fel fi fy nhun. (Gyda help gan therapi, cymryd meddyginiaeth yn rheolaidd)
Yn fuan ar ôl hynny, dechreuais siarad am ADHD a gwaith cyfryngau gyda S$C, Hansh, a BBC Radio Cymru. O’n i rili eisiau pobl i’w ddeall yn iawn. Roeddwn i wedi blino â phobl yn meddwl fy mod yn od neu’n anrhefnus, wedyn yn sydyn yn faddeugar y funud roedd label yn ynglwm ag e.
Ro’ ni eisiau i bobl wybod bod rhesymau tu ôl i’r ffaith fod rhai ohonym yn symud trwy’n bywydau yn wahanol.
Ac yn rhyfedd, y peth feddyliais y bysa’n fy nhynnu’n ôl fwyaf a helpodd fi gysylltu â phobl y mwyaf. Wrth fod yn agored am fy ngwendidau a dysgu i beidio â chuddio ac esgus drwy’r amser, sylwais fod pobl yn cynhesu at yr hyn ac yn teimlo’n gyfforddus o’m cwmpas. A hefyd fy nigymhellrwydd a’m gallu i fyrfyfyrio, sy’n gwneud perfformio ac ysgrifennu caneuon llawer mwy diddorol. Dwi’n meddwl fod llawer o ni bobl niwro-amrywliol yn tyfu fyny dan gredu mai ein ymennydd yw ein rhwystr. Ond weithiau, ei ddeall a’i dderbyn sy’n ein galluogi i symud ymlaen o’r diwedd, a gwerthfawrogi ein rhinweddau unigryw.
Galla i ddim pwysleisio digon faint o empathi sydd gen i am yr holl rwystrau mae pobl â niwro-amyrywiaethau yn gwynebu. Dwi byth eisiau iddo ddod rhwng person a’u creadigrwydd, neu eu stopio rhag fod yn nhw eu hunain o gwmpas eraill.
Dyna’r prif reswm dwi yma gydag Anthem, am wn i.
Felly i’m criw niwro-amrywiol: daliwch ati i gyfathrebu. Daliwch ati i ddod o hyd i ffyrdd o’ch helpu eich hunain. Daliwch ati i rhoi cariad i’ch hunain. Ac yn bennaf, daliwch ati i greu!

PETHAU SY’N GWEITHIO I FI:
(Efallai nad yw rhain yn bethau newydd, ond hoffwn rannu’n onest yr hyn sydd wedi gweithio i mi, a fydd efallai yn galluogi rhywun arall i’w defnyddio.)
Cynlluniwch eich dyddiau i ffwrdd!
Rwyt yn cynllunio popeth arall, felly pam ddim eich amser rhydd?
Dydy gorffwys ddim yn wobr. Mae’n rhan o unrhyw swydd sydd angen ei wneud gyda brwdfrydedd.
Os nad ydych yn cynllunio’ch amser i ffwrdd, mi fyddech yn llosgi allan cyn i chi wybod.
Tudalennau Bore (O The Artist’s Way)
Dyma ymarfer o’r llyfr, The Artist’s Way, a dwi’n trio cadw iddo’n grefyddol. Mae hyn yn cynnwys nodi eich llif cydwybod, peth cyntaf yn y bore heb ei gynllunio.
Mae gen i filiwn o feddyliau mewn diwrnod, felly dwi angen gwagio yr ymennydd weithiau. Mae gennym ni ddyddiau gwagio biniau i’n cartrefi, ond nid i’n ymenyddiau swnllyd, wedi’u llenwi’n llawn dop â meddyliau. Mae’n wych sut wrth i mi ailddarllen, mae syniadau’n gallu cropian mewn i fy nghaneuon, a mae’n dod â thawelwch meddwl pan rwyf yn gyson gydag e.
Bag Gig.
Iawn felly fi yw’r canwr, felly llai o bethau i’w cario (byddwch yn meddwl).
Ond dwi dal yn gyfrifol am y traciau ar fy ngliniadur, y wifren splitter, propiau, nwyddau masnach ayyb. Beth bynnag boed eich offeryn DEWCH Â BAG GIG, a chadwch yr un un, PEIDIWCH Â NEWID EICH BAGIAU. Dwi’n cael trafferth gyda hynny yn bersonol a wedyn mae’n effeithio beth dwi wedi ei bacio bob tro. Os rydych wedi darllen hwn, gwnewch fag gig pert nawr!! Nid yw’r straen o anghofio pethau am gig werth e - MAE HYN YN CYNNWYS BYRBRYDAU AC AMDDIFFYNWYR CLUSTIAU. Gall bola gwag effeithio unrhyw ymennydd, ond dwi’n llythrennol yn rhedeg allan o eiriau phan fyddai’n llwglyd, neu dwi’n mynd yn freuddwydiol iawn. Ddim yn ddelfrydol cyn gigiau. Mae fy meddyginiaeth hefyd llawer mwy effeithiol gyda bwyd. Dwi hefyd yn anghofio i fwyta ym mysg prysurdeb bywyd, dwi wedi bod yn trio pacio byrbrydau ar gyfer y rhan fwyaf o bethau mewn bywyd, mae e mor bwysig.
Rhannwch eich ebyst gyda pherson trefnus, ymddiriedus.
Nid oes gan y rhan fwyaf ohonom ni dîm er mai hynny yw’r nod (am gyfnodau byr dwi wedi bod yn ffodus i gael tîm) ond yn bresennol does gen i ddim rheolwr, asiant bwcio na unrhyw beth arall. Hyd yn oed gyda’r pethau hynny yn anffodus mae gennym ni llwyth o gyfrifoldebau trwy'r amser e.e ateb ebyst, felly dyna’r dasg gyntaf am wn i haha, derbyn ble mae gweinyddu cymryd lle yn eich byd. Gallech chi ddianc i’r goedwig a newid eich bywyd yn gyfangwbl… tempting! Fodd bynnag, mae gweinyddu o fewn pob agwedd o’n bywydau nawr, ac o’n i arfer dweud mae’n iawn ymennydd, bydd rheolwyr a phobl eraill yn ateb i ti yn y pen draw… ond nid oedd hynny yn ddefnyddiol!
Dwi’n rhannu fy ebyst gyda aelod fy mand Ioan Gwyn. a mae hynny’n rhannu’r pwysau o ran trefnu gigs, atgofiadau i ateb ebyst, danfon anfonebau. Gallech hefyd cael tag ar eich cyfeiriad ebost fel: Niwro-amrywiol - gall fy atebion gymryd amser, falle bod angen fy atgoffa.
Ymarfer Corff
A wyddwch gall ymarfer corff ryddhau yr un faint o dopamin â chymryd meddyginiaeth ADHD? Dwi’n teimlo gwahaniaeth mawr yn fy mywyd pan nad wyf wedi neud ymarfer corff, mae e’n feddyginiaeth ei hun. Hefyd mae’n helpu i beidio bod allan o wynt pan yn perfformio gyda’r meicroffon. Mae Miley Cyrus a sêr eraill yn canu wrth wneud ymarfer corff - ffordd gwych i weithio ar reolaeth anadl, os nad ydych yn becso beth mae eraill yn meddwl ahah! Mae’r artist King Khan yn dweud ‘Dwi wrth fy modd yn sglefyrddio a mae e mor llesol i’m rheolaeth emosiynol’.
Newidiwch eich Amgylchedd!
Mae’r cynhyrchydd Bryn Llywelyn yn sôn am drafferthu gyda gorweithio ar sain, cymysgau ac alawon: “Beth sydd rili yn helpu fi yw newid lleoliadau. Weithiau newid cynhyrchu i’r fan ar ôl gwaith, weithiau llogi stiwdio newydd, weithiau mynd am dro braf gyda gitâr.”
Cadarnhadau - Mae gen i gymaint wedi’u postio yn fy ystafell, yng nghornel fy nrych; ymarferwch dweud rhain cyn perfformiadau neu rhyngweithio. Mae’r artist Chuts yn dweud: “Gall syndrom imposter fod yn ofnadwy, ond mae cadarnhadau yn wyrth!”
Adleuwyrchu [mirroring]
Dwi’n tueddu i ddal fy nhun un adleuwyrchu, mae’n digwydd heb i fi feddwl. Pethau bach fel sefyll ar safle bws, dwi’n sylwi fy nhun yn copïo sut mae dyn sy’n aros yna yn sefyll, neu dwi’n siarad â rhywun a maent yn gwthio’u llaw tu ôl i’w clustiau, felly dwi’n gwneud yr un peth. Mae hyn yn gallu cymhlethu ac achosi embaras mewn cyfweliadau. Dwi’n clywed fy llais yn dechrau adleisio llais y cyflwelwr ac yn sydyn dwi’n swnio yn fwy Ogleddol, neu gan ddarllen gormod mewn i iaith corff y cyfwelydd dwi’n dechrau gwneud newidiadau diangen. Tip da ar gyfer hwn yw rhywbeth gefais gan fy Mam, esgus dy fod yn siarad gyda dy chwaer, neu ffrind agos. Mae adleuwyrchu hefyd yn gallu dod wrth chwilio am rywbeth synhwyraidd, felly os oes gennych chi degan fidget neu rhywbeth yn eich poced, gall hwnnw helpu chi aros yn ymlaciol.
PEIDIWCH Â BOD YN OFN I OFYN
Galla i ddim pwysleidio hwn ddigon.
Dwi’n meddwl mai hon yw’r wers mwyaf dwi wedi dysgu ar fy siwrne gerddorol.
Mae dysgu i ofyn am be dwi angen wedi’n wirioneddol newid popeth. Esiamplau: Gofyn am saib yn y stiwdio. Gofyn os oes man tawel mewn digwyddiad. Dweud “Galla i ddim gwneud cyfweliad ar y funud, dwi wedi fy llethu.” Cymryd pum munud ar ôl gig cyn siarad gydag unrhyw un.
Roedd ‘na amser byswn yn meddwl fod hynny’n fy ngwneud yn anodd. Nawr dwi’n gwybod mae’n meddwl fy mod i’n adnabod fy nhun.
Hyd yn oed mewn momentau bach, dydd-i-ddydd fel gofyn i rywun ailadrodd beth ddywedon nhw gan na brosesais e y tro cyntaf, neu cyfaddef nad fy mod yn deall jôc. Dwi ddim yn prosesu pethau ar yr un cyflymder â phobl eraill… a mae hynny’n iawn. Weithiau nai ofyn, weithiau nai jysd gwenu’n gwrtais a symud ymlaen. Mae e siwr o fod yn drysu pobl rhywfaint, ond mae cadw’n gyfeillgar yn bwysicach i fi na chael popeth yn “gywir”.
Yr hynaf dwi’n mynd, y mwyaf dwi’n deall fy ymenydd, beth mae e angen, beth mae’n gallu ymdopi â, a phryd dwi’n dechrau cyrraedd fy ffin. Er, nid yw hynny yn golygu fod yr ansicrwydd yn diflannu. Dwi dal yn cael y momentau yna o feddwl “ydw i’n gofyn gormod?” neu “ydw i’n bod yn ddramatig?”
Ond y gwir yw, does neb yn gwybod beth sy’n mynd ymlaen yn eich pen os nad ydych yn dweud wrthyn nhw. Does dim darllenwyr meddwl.
Mae dysgu i fod yn ddigon dewr i ddweud “Hei, dwi angen hyn” - dyna oedd y newid mwyaf. Dim ond ar gyfer fy ngwaith fel artist, ond ar gyfer fy mywyd yn gyffredinol.
Geirda a darllen pellach.
Dolen i lyfr Cymraeg sy'n archwilio niwro-amrywiaeth, yn cynnwys straeon gan Mali Haf ac eraill. DYNOL IAWN - Gol/Ed.
Non Parry:
https://www.waterstones.com/book/dynol-iawn/y-lolfa/non-parry/9781800995567#reviews
The Artist’s Way - Mae’r llyfr yma wedi helpu fi yn fy ngyrfa ac i ddatblygu berthynas iach tuag at fy nghrefft a fy meddwl.