Llwyfannau Dosbarthu Cerddoriaeth (Tâl): Canllaw
Gan: Shereef Ragab
Helo, Shereef Ragab ydw i ac yn y blog hwn byddwn yn edrych yn fanylach ar sut mae pedwar o'r platfformau dosbarthu mwyaf, o’r rhai sy’n codi ffi, yn gweithredu a beth i'w ddisgwyl gan bob un. Rwyf hefyd wedi cynnwys rhai awgrymiadau ar sut i wneud y defnydd gorau ohonyn nhw.
Awgrymiadau da ar sut i wneud i'ch cerddoriaeth swnio'n wych wrth uwchlwytho:
Wrth uwchlwytho i wasanaethau dosbarthu, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud hynny yn 44.1 kHz 16 bit WAV.
Bydd y rhan fwyaf o Weithfannau Sain Digidol yn cynnwys opsiynau sy'n eich galluogi i rendro mewn nifer o fformatau a chyfraddau bit. Ar gyfer radio, 48 kHz 24 sydd orau. Cofiwch, po uchaf yw'r ansawdd, y gorau fydd i Spotify ac iTunes ac ati i amgodio'r ffeiliau ar eu platfformau. Ond peidiwch â rendro'n uwch am ddim rheswm gan y bydd hyn yn rhoi ffeil fwy i chi heb unrhyw fanteision amlwg. Hefyd, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gadael digon o le fel y bydd yn chwarae yn ôl ar lefel sain addas heb unrhyw afluniad (distortion). Os yw eich trac yn uwch na'r hyn maen nhw’n ei ganiatáu o ran ‘Loudness Units Full Scale’, bydd y platfform ffrydio yn gostwng lefel sain eich trac ar eich rhan! Nid yw hyn yn golygu y dylech geisio rhoi eich cân ar lefel sain uwch. Mewn gwirionedd, rydych chi eisiau i’ch cân derfynol fod yn gytbwys heb fynd i'r coch.
Felly dyma’r pedwar gwasanaeth dosbarthu gorau yn fy marn i, o’r rhai sy’n codi ffi, a fydd yn eich galluogi i roi eich caneuon ar Spotify, Apple Music, iTunes, a llawer mwy o blatfformau!
Distrokid
Distrokid yw un o'r gwasanaethau dosbarthu hawsaf a chyflymaf sydd ar gael. Maen nhw'n rhoi eich cerddoriaeth ar wasanaethau ffrydio fel Spotify ac iTunes o fewn 5 - 7 diwrnod (5 diwrnod yn aml) - sy'n un o’r gwasanaethau dosbarthu cyflymaf i wneud hynny.
Syniad sydyn:
1. Cofrestrwch gyda chyfeiriad e-bost ar y dudalen flaen
2. Cliciwch ar becyn o’ch dewis
3. Ewch i’r ffenestr dalu
4. Caewch y tab
Ychydig ddyddiau wedyn, dylech dderbyn e-bost yn cynnig gostyngiad (35%)
Cliciwch ar eich gostyngiad a chau'r tab hwnnw
Dylech gael e-bost gyda gostyngiad pellach!
Yna cofrestrwch!!
DittoMusic
DittoMusic yw un o'r gwasanaethau dosbarthu annibynnol mwyaf poblogaidd sydd ar gael. Yn ôl eu gwefan, fe wnaeth Ed Sheeran, Sam Smith, Chance The Rapper, Izzy Bizu a Dave ddechrau gyda Ditto.
Mae DittoMusic yn cynnig cyfnod prawf am ddim o 30 diwrnod gyda phris cychwynnol o £19 y flwyddyn a bydd hyn golygu y bydd eich caneuon yn cael eu dosbarthu ac ar gael o fewn 10 diwrnod. Mae hyn yn cynnwys dosbarthu cerddoriaeth diderfyn i’r holl brif siopau digidol a phlatfformau ffrydio gan gynnwys Spotify ac Apple Music.
Nid yn unig y mae Ditto yn cynnig gwasanaeth dosbarthu cerddoriaeth, maen nhw hefyd yn cynnig gwasanaeth cyhoeddi a fydd yn rhoi eich caneuon mewn rhaglenni teledu a ffilmiau. Bydd tanysgrifiad blynyddol i’r gwasanaeth hwn yn £39 ond bydd angen i chi hefyd gofrestru gyda'r PRS er mwyn casglu unrhyw freindaliadau.
Amuse
Rydyn ni wedi edrych ar y fersiwn am ddim o Amuse a nawr mae'n bryd edrych ar yr hyn sydd ar gael am £19 y flwyddyn os ydych chi'n dewis y gwasanaeth yma.
Am y pris, rydych chi'n cael:
- Rhyddhau caneuon mewn 2 wythnos
- Rhyddhau faint fynnoch chi o ganeuon
- Mynediad i fwy o siopau nag sydd ar gael yn y model am ddim
- YouTube Content ID (ffi 15%)
- Hollti Breindal (dim ffi)
- Cymorth 72 awr
Am yr un pris yn Ditto, mae'n rhaid i chi fod yn barod i aberthu 4 diwrnod ychwanegol cyn rhyddhau a phwyso a mesur y pethau eraill sydd ar gael yma. Cewch ryddhau faint fynnoch chi o ganeuon a bydd eich cynnwys ar gael ar bron i bob platfform ffrydio sydd ar gael os ydych chi'n talu am danysgrifiad blynyddol gydag unrhyw ddosbarthwr ffrydio. Ond gydag Amuse, cewch fwy o werth am eich arian gyda chofrestriad Youtube Content ID, sy'n eich galluogi i roi hawlfraint ar eich gwaith a nodi fideos YouTube sy’n defnyddio cynnwys sy’n eiddo i chi.
Mwy ar sut mae YouTube Content IDs yn gweithio:
https://support.google.com/youtube/answer/2797370?hl=en-GB&ref_topic=9282364
LANDR
Mae LANDR yn darparu rhywbeth hollol wahanol. Mae'n blatfform creadigol sy'n eich helpu i wella'ch cerddoriaeth drwy ddefnyddio ategion, mynediad i gymuned greadigol, a chymorth gyda ‘mastering’. Ac yn olaf mae'n darparu gwasanaeth dosbarthu yn y ffordd y mae llwyfannau eraill yn ei wneud.
- Am £108 y flwyddyn, byddwch yn cael:
- Faint fynnoch chi o MP3 Masters
- 36 WAV Masters y flwyddyn
- Dosbarthu Diderfyn
- 1200 o gredydau samplu y flwyddyn
- Offer cydweithio ar-lein
- Ategion a VSTs
- Meddalwedd LANDR FX
- Ffrydio DAW o ansawdd uchel
Hoff Blatfform Shereef:
Os mai eisiau rhyddhau faint fynnoch chi ar yr holl brif blatfformau ffrydio ydych chi, wedyn DistroKid yw’r un i chi. Ond cofiwch ddilyn yr awgrym uchod i gael eich gostyngiad!