Llwyfannau Dosbarthu Cerddoriaeth (Am ddim): Canllaw
Gan: Shereef Ragab
Helo, Shereef Ragab ydw i, a bydd y blog yma’n rhoi awgrymiadau i chi ar rai o'r prif blatfformau dosbarthu cerddoriaeth sy’n eich helpu i roi eich cerddoriaeth ar y prif wasanaethau ffrydio am ddim.
Mae llwyth o opsiynau am ddim ar gael a gall fod yn anodd iawn dewis rhyngddyn nhw. Meddyliwch am yr hyn rydych CHI ei eisiau. Ai dim ond angen arddangos eich gwaith ydych chi? Ai eisiau mynd ar Spotify a phrif wasanaethau ffrydio eraill ydych chi? Ydych chi'n disgwyl cael llawer o bobl yn gwrando?
Pe bawn i'n cychwyn arni, byddwn i'n dewis Amuse oherwydd mae'n annhebygol y bydd angen mwy na 12 sengl arnoch chi yn eich blwyddyn gyntaf o ddosbarthu cerddoriaeth. Mae un sengl y mis yn rhoi lle i chi ganolbwyntio ar greu strategaeth gan feddwl am ansawdd yn hytrach na rhyddhau cymaint â phosibl. Os mai cychwyn arni ydych chi, mae'n syniad da canolbwyntio ar greu senglau da iawn a pheidio â phoeni am greu EP tan yn nes ymlaen. Gallwch feddwl am greu EP unwaith y bydd pobl yn dangos diddordeb yn eich senglau. Gallwch hyd yn oed ryddhau EP sy'n cynnwys eich 4 cân sydd wedi’u ffrydio fwyaf. O'r fan yna, meddyliwch am gydweithio ag eraill, dod o hyd i gyllid, hyrwyddo, ac WEDYN meddyliwch am albwm. Ond yn gyffredinol, bydd albymau’n dod pan fyddwch chi wedi creu cynulleidfa neu pan fydd digon o ddiddordeb yn eich caneuon i chi gymryd eich cam nesaf.
Yn y pen draw, mae'n bwysicach i chi wneud y gerddoriaeth orau bosib fel eich bod chi’n dal sylw pobl, gan fod llawer o artistiaid allan yna sy’n hyrwyddo eu cerddoriaeth.
Amuse
Un o'r llwyfannau dosbarthu am ddim mwyaf poblogaidd yw Amuse. Bydd Amuse yn rhoi eich cerddoriaeth ar yr holl brif wasanaethau ffrydio ac yn y prif siopau ond dim ond 12 sengl y flwyddyn y cewch eu rhoi yno am ddim. Nid yn unig y mae am ddim - rydych chi hefyd yn cadw 100% o’r breindaliadau. Fodd bynnag, mae ffi o 15% ar gyfer rhannu breindal os oes mwy nag un cyfansoddwr ar unrhyw gân benodol. Mae Amuse hefyd ar gael fel ap a thrwy eu gwefan ac mae hyn yn ddefnyddiol i gadw golwg ar eich cerddoriaeth wrth i chi fynd. Maen nhw’n rhedeg blog ar eu gwefan sy’n rhoi newyddion defnyddiol.
Bandcamp
Ffordd arall i gael eich cerddoriaeth ar bethau fel Spotify ac Apple Music yw Bandcamp. Mae BandCamp yn blatfform sy'n eich galluogi i werthu'n uniongyrchol i'ch cefnogwyr ac mae’n eich helpu i hyrwyddo eich cerddoriaeth. Mae'r opsiwn yma’n wych i ddangos prosiectau newydd i’ch cefnogwyr ar ffurf ddigidol a ffisegol, ac mae'r platfform yn eich helpu i adeiladu cymuned o ddilynwyr a fydd yn siŵr o brynu eich cerddoriaeth. Mae Bandcamp yn ffordd wych i arddangos eich gwaith ar-lein ac mae'n blatfform sy’n cael ei gydnabod ledled y diwydiant cerddoriaeth.
Ditto Music
Mae Ditto Music yn blatfform tebyg i Amuse sy'n canolbwyntio ar ddosbarthu a chyhoeddi. Mae'n safle syml i’w ddefnyddio. Ond mae'n gofyn ichi gofrestru ar gyfrif lle mae’n rhaid talu, er ei fod yn cynnig cyfnod prawf o 30 diwrnod am ddim sy'n rhoi cyfle i chi roi cynnig ar eu platfform, a dim ond £19 y flwyddyn yw'r ffi flynyddol. Mae'r cyfnod prawf am ddim yn gyfle da i roi cynnig ar eu gwasanaeth cyn symud i'r opsiwn lle mae’n rhaid talu. Ar ôl y cyfnod prawf, bydd eich proffil Spotify ac unrhyw gerddoriaeth yn parhau. Mae'r platfform yn cysylltu â'r holl brif wasanaethau ffrydio, yn cynnig cyngor drwy flog, ac yn rhedeg cylchlythyr ar gyfer artistiaid sydd heb gael contract.
Indiefy
Mae Indiefy yn cynnig gwasanaeth am ddim sy'n eich galluogi i gasglu 85% o'ch breindaliadau a rhyddhau 10 sengl y mis. Fodd bynnag, mae am ddim am byth felly bydd eich proffil a’ch caneuon yn parhau ar Spotify. Mae gwasanaethau ffrydio adnabyddus eraill, neu 'siopau' fel mae Indiefy yn eu galw, hefyd wedi'u cynnwys yn y gwasanaeth am ddim, gyda'r opsiwn i uwchraddio i danysgrifiad am bris misol os ydych chi eisiau cyrraedd mwy o 'siopau'. Os ydych chi'n edrych am freindaliadau ar unwaith, nid dyma'r platfform i chi, gan fod angen i chi gyrraedd 100 USD cyn y gallwch chi dderbyn yr arian. Os oes gennych chi gynulleidfa fach ac nad gwneud arian yw’r nod, byddai'r opsiwn am ddim yn berffaith oherwydd mae’n debygol na fyddwch chi’n cael digon o ffrydiau i gasglu breindaliadau.
Music Gateway
Mae Music Gateway yn cynnig gwasanaeth am ddim lle mae’r aelodau'n derbyn 80% o’r breindaliadau ac maen nhw’n dosbarthu i dros 300 o ddarparwyr gwasanaeth digidol. Gallech ystyried yr 20% fel ffioedd gweinyddol. Maen nhw’n cynnig 5 trac y flwyddyn, er y gallwch chi reoli a chofrestru faint fynnoch chi o ganeuon. Mae'r platfform yn cynnig ystod eang o bethau nad ydyn nhw, mwy na thebyg, yn briodol i chi ar hyn o bryd, fel cyfuno cyfleoedd a chynrychiolaeth, offer hyrwyddo a lle i greu eich tudalen artist eich hun a chwrdd â rhai i gydweithio â nhw. Ond efallai mai dyma’r math o beth sydd gennych chi mewn golwg ac os felly gall Music Gateway eich helpu i dyfu.
Awgrym Anhygoel Shereef:
1. Cofrestrwch gyda DittoMusic am ddim am gyfnod prawf o 30 diwrnod
2. Llwythwch bopeth rydych chi eisiau eu rhoi ar blatfformau ffrydio
3. Canslwch eich aelodaeth
Bydd eich cerddoriaeth yn parhau ar y platfformau hynny
Gallwch danysgrifio’n flynyddol yn ddiweddarach am £19 os ydych yn creu digon o ffrydiau i gasglu breindaliadau
Bydd gwneud hyn yn sicrhau bod eich cerddoriaeth ar bron i bob un o'r llwyfannau sydd ar gael (fel yn achos tanysgrifio am ffi)
Pob lwc!!!