Dechrau ym Maes Ffotograffiaeth Cerddoriaeth Byw
Gan: Ceirios Bebb
Helo! Fy enw i yw Ceirios, dwi’n ffotograffiwr cerddoriaeth llawrydd o Dde Cymru ac yn yr erthygl hon dwi am rannu bach o wybodaeth am holl bethau ffotograffiaeth cerddoriaeth, yn cynnwys sut i saethu eich gig byw cyntaf, dod i adnabod eich camera ac adeiladu portffolio.
Ble i Ddechrau?
Gall ddechrau yn y cyfeiriad cywir fod y rhan anodda’r broses felly gobeithio, wrth i chi ddarllen hwn, mi ddatblygwch yr hyder, sgiliau a syniadau i ffotograffu eich sioe gyntaf ac adeiladu eich portffolio.
Cyn i chi fynd allan i weithio o dan bwysau amser gig go iawn, mae’n syniad da i ddod i adnabod elfennau syml eich camera.
Mae gan bob camera gydag opsiwn manual mode dri osodiad pennaf: Cyflymder caead, ISO ac Aperture.
- Mae’r CYFLYMDER CAEAD yn un pwysig ar gyfer ffotograffiaeth os ydych eisiau dal symudiad ac egni’r sioe. Mae’r cyflymder caead yn cynrhychioli faint o hir mae’r shutter ar agor; mae cyflymder caead cyflymach (rhifau uwch) yn dal lluniau’n gyflymach, sy’n grêt er mwyn cael lluniau clir o symuniad ac egni’r perfformiadau ar y llwyfan. Y cyflymder caead delfrydol ar gyfer ffotograffiaeth cerddoriaeth yw 1/250 neu uwch.
- Nesaf yw ISO. Mae hwn yn rheoli sensitifrwydd y camera i olau, sy’n bwysig ar gyfer ffotograffiaeth cerddoriaeth, oherwydd yn aml mi fyddwch yn delio â leoliadau tywyll heb lawer o olau. Y mae cael ISO uwch, yn ddelfrydol o gwmpas 3200, yn golygu fod y camera yn fwy sensitif i’r golau. Mae deall lefel ISO yn gallu’ch helpu i leihau’r siawns o sŵn; pan mae lluniau tywyll yn niwlog neu’n aneglur.
- Yn olaf, mae gennym APERTURE sy’n rheoli maint agoriad y lens, gyda’r aperture lletach (rhifau is) yn gadael mwy o olau i mewn ac aperture cilach (rhifau uwch) yn gadael llai o olau i mewn. Y mae aperture hefyd yn effeithio faint o’r golygfa sydd o fewn ffocws, gydag aperture lletach yn creu cefndir allan o ffocws ar gyfer y gwrthrych o fewn ffocws, ac aperture cilach yn cyflawni golygfa llydan a mwy o’r llun llawn o fewn ffocws. Mewn sefyllfa ffotograffu gig tywyll, aperture is, lletach yw’r gorau, sy’n gadael gymaint o olau i mewn â sy’n bosib.

Mae gan llawer o gamerâu ffôn pro mode ble gallech addasu’r gosodiadau hyn, sy’n grêt er mwyn ymarfer cyn buddsoddi mewn camera. Mae e hefyd yn dda i ddechrau cymryd lluniau o unrhyw beth a phopeth, dod i arfer gyda’r gosodiadau yma meistrioli’r camera. Mi fydd hyn hefyd yn rhoi cyfle i chi ymarfer golygu sy’n rhan pwysig o alluogi’ch gwaith i sefyll allan a datblygu eich steil unigryw eich hunain.
Saethu Eich Gig Cyntaf!
Nawr fod gennych ddealltwriaeth sylfaenol o alluoedd camera a wedi ymarfer cymryd lluniau gydag ef, dylech eich bod yn barod i saethu’ch gig cyntaf. I ddechrau, mae e i gyd i wneud ag adeiladu’ch portffolio; ei wella gydag ymarfer ac arbrofi. Mae hyn yn golygu gwneud lot o waith am ddim sy’n rhoi siawns i chi chwarae o gwmpas a chreu cangymeriadau wrth hefyd ddatblygu cysondeb yn eich gwaith. Ar y pwynt yma mae e hefyd yn amser gwych i adeiladu enw i’ch hun a rhwydweithio wrth rannu lluniau gyda’r bandiau a’r lleoliadau. Y mae rhwydweithio yn ran anferth o ffotograffiaeth llawrydd a bron mor bwysig a’r lluniau eu hunain.

- CAM 1 - Ewch ar Google Maps a ffeindiwch gymaint o leoliadau cerddoriaeth â fedrwch. Mae edrych am fandiau lleol drwy Instagram neu TikTok hefyd yn syniad gwych. Mae yna gymaint o leoliadau cerddoriaeth annibynnol a bandiau newydd yn aros i chi eu darganfod dros Gymru i gyd.
- CAM 2 - Ebostiwch y bandiau a’r lleoliadau cerddoriaeth! Y gorau po fwyaf. Ebost fer, syml yw’r gorau gan fod lleoliadau cerddorol a bandiau yn gallu bod yn brysur a felly heb amser i ddarllen ebostiau hir. Gall hyn fod rywbeth fel…

- CAM 3 - Arhoswch am atebion, mi fydd rhai pobl yn cymryd dipyn o amser i’ch ateb ond peidiwch â rhoi’r ffidil yn y to! Mae amynedd yn hanfodol gan bod lleoliadau cerddoriaeth â mewflwch neu bandiau prysur yn debyg o gymryd bach hirach i ateb.
- CAM 4 - Rydych chi wedi cyrraedd eich gig cyntaf, gwnewch yn siŵr eich bod yn cyrraedd mewn pryd i wneud argraff dda ar y band neu'r lleoliad fel y gallent eich argymell i eraill neu eich gofyn yn ôl am waith â thâl. Tynnwch gymaint o luniau ag y gallwch yn ystod y setiau, bydd o leiaf un o'r cannoedd o luniau yn werth eu rhannu! Gallwch hyd yn oed fynd yr ail filltir a gofyn i'r band a hoffent unrhyw luniau cefn llwyfan neu lun grŵp yn y gig.

- CAM 5 - Ar ôl noson dda o gwsg mae'n amser golygu, dyma lle gallwch chi gael hwyl wrth chwarae gyda lliwiau a nodweddion eich meddalwedd golygu. Y feddalwedd golygu fwyaf poblogaidd yw Adobe Lightroom ond mae yna lawer o apiau a meddalwedd golygu am ddim allan yna fel Luminar Neo, Apple Photos ar gyfer defnyddwyr Apple, GIMP neu paint.NET. Mae treulio peth amser yn arbrofi gyda'ch golygiadau yn ffordd wych o ddod o hyd i ffordd o wneud i'ch lluniau sefyll allan a'ch steil unigol.
- CAM 6 - Rhannwch nhw! Anfonwch y lluniau gyda'r bandiau a'r lleoliadau yn gyntaf, tra bod y gig yn dal yn ffres yn eu meddyliau. Byddan nhw'n meddwl am wneud postiadau cyfryngau cymdeithasol am y gig felly mae cael eich lluniau drosodd yn fuan wedyn yn rhoi cyfle iddyn nhw eu rhannu gyda'u rhwydweithiau a denu cynulleidfa llawer ehangach i ddarganfod eich gwaith. Rhannwch nhw ar eich cyfrifon cyfryngau cymdeithasol eich hun hefyd! Mae Instagram yn ffordd wych o adeiladu portffolio digidol sy'n hygyrch i'r rhan fwyaf o bobl.
Unwaith rydych chi wedi gwneud eich gig cyntaf, ‘dych chi wedi pasio’r cam cyntaf hwnnw. Parhawch i droi fyny i gigiau lleol a sioeau tan eich bod wedi adeiladu portffolio cadarn a chyson. Adborth gwych arall yw i fynd i ddigwyddiadau rhwydweithio cerddorol, y man perffaith i gyfarfod pob math o bobl yn y diwydiant cerddoriaeth a fydd siwr o fod angen rhyw fath o luniau.
Pob lwc!
Ceirios