Gwobr Cerddoriaeth Tune Into Nature 2025
Bydd yr enillydd yn derbyn ailgymysgiad proffesiynol gan gynhyrchydd o fri, gyda mynediad i un o archifau gorau’r byd o recordiadau maes natur gan The Listening Planet. Bydd yr enillydd yn cael y dewis i’w drac gael ei ryddhau ar broffil NATURE ar draws prif lwyfannau ffrydio fel rhan o’r fenter Sounds Right, gan elwa o hyrwyddo a marchnata sylweddol, a chael ei gynnwys ar restr chwarae arbennig i godi arian ar gyfer adfer a gwarchod natur.
Bydd rhwydweithiau cerddoriaeth y BBC yn dod â manylion y wobr i wrandawyr a chyfle i glywed detholiadau o rai o’r traciau ar y rhestr fer. Mae’r beirniaid yn cynnwys cerddorion ac artistiaid megis Cosmo Sheldrake, Madame Gandhi, Andrew Fearn (Sleaford Mods), Jason Singh, Melissa Harrison a Sam Lee, a chyflwynwyr y BBC Sian Eleri a Elizabeth Alker.
Fel rhan o brosiect ymchwil yn y cyfnod cyn lansio’r gystadleuaeth, canfu Prifysgol Derby fod y cysylltiad rhwng pobl ifanc a natur yn lleihau yn ystod y blynyddoedd glasoed ac yn cymryd dros ddegawd i adennill. Mae ymchwil hefyd yn dangos bod cyfeiriadau at natur mewn cerddoriaeth gyfoes wedi lleihau’n gyson ers y 1950au. Gan fod cysylltiadau agos â natur yn hysbys i helpu gyda lles personol a gofalu am y blaned, mae pobl sydd â chysylltiad cryfach â natur yn fwy tebygol o’i pharchu a’i meithrin.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 11.59 yh dydd Llun 6 Ionawr 2025.
Gellir dod o hyd i fanylion pellach, telerau ac amodau llawn, a sut i wneud cais yn tuneintonaturemusicprize.info.
Panel Beirniadu Gwobr Cerddoriaeth Tune Into Nature 2024:
- Cadeirydd: Yr Athro Miles Richardson, Sylfaenydd Gwobr Tune Into Nature ac Athro Ffactorau Dynol a Chysylltiad â Natur, Prifysgol Derby
- Melissa Harrison, Nofelydd ac ysgrifennwr natur
- Andrew Fearn, Cynhyrchydd a Sleaford Mods
- Madame Gandhi, artist a gweithredydd sydd wedi ennill gwobrau
- Sam Lee, cerddor enwebedig Gwobr Mercury a chadwraethwr natur
- Cosmo Sheldrake, cerddor aml-offerynnol, cyfansoddwr a chynhyrchydd
- Jinny Lyon, o The Listening Planet, casgliad preifat mwyaf y byd o synau natur
- Jason Singh, artist sain, beatboxer natur, cynhyrchydd, DJ, perfformiwr a hwylusydd
- Sian Eleri, cyflwynydd BBC Radio 1 a’r teledu
- Elizabeth Alker, Cyflwynydd BBC Radio 3 ac Awdur
- Sarah Coulson, Parc Cerfluniaeth Swydd Efrog