• English
  • Cysylltwch â Ni
  • English

Trac Cymru - Ambell i Gan

Mae Ambell i Gân yn benwythnos o ganu gwerin Cymreig gyda thri o brif leisiau Cymru – Gwilym Bowen Rhys, Beth Celyn a Gwenan Gibbard.
Mae’r penwythnos yn cael ei gynnal ym Mhlas Caerdeon, ac yn costio £300 am y penwythnos gan gynnwys yr holl brydau bwyd a llety.

Mae gostyngiad cynnar ar gael tan fis Tachwedd.

Mae tri dosbarth ar gael:
 
Dosbarth profiadol: Mae’r dosbarth hwn ar gyfer y rhai sydd eisoes â hyder yn ynganu Cymraeg ac sy’n gantorion profiadol. Disgwylir eich bod yn gallu ynganu geiriau yn Gymraeg yn hyderus.

Dosbarth canolradd: Mae’r dosbarth hwn ar gyfer y rhai sydd â llai o brofiad o’r Gymraeg a/neu sydd wedi cael llai o brofiad canu.

Dosbarth i ddechreuwyr: Mae hwn ar gyfer y rhai sydd efallai â rhywfaint o brofiad canu ond sydd â dim/ychydig o brofiad gyda’r Gymraeg.

 

I ddysgu mwy am Ambell i Gân dilynwch y ddolen yma.

Archebwch eich tocynnau yma.