• English
  • Cysylltwch â Ni
  • English

Sain i'r Sgrin

Mae SAIN I’R SGRIN Anthem yn ddigwyddiad am ddim sy’n cael ei gynnal ar Ddydd Sadwrn 21 Chwefror yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter yng Nghaerdydd. Mae wedi’i ddylunio i gynnig cipolwg ar lwybrau gyrfa sy’n gysylltiedig â chreu cerddoriaeth ar gyfer y sgrin.

Mae’r digwyddiad ar gyfer cyfansoddwyr, cyfansoddwyr caneuon a chynhyrchwyr sydd â diddordeb mewn creu cerddoriaeth ar gyfer y Teledu, Ffilm neu Gemau fel llwybr gyrfa posibl.

Mae 35 o leoedd ar gael i gyfranogwyr 18-25 oed (neu 18-30 yn achos pobl f/Fyddar, anabl neu niwroamrywiol) sy’n seiliedig yng Nghymru.

Dysgwch fwy am y digwyddiad a sut i gofrestru ar wefan Anthem.