Cân Ludlow - Galwad i Gyfansoddwyr Ifanc
Mae Cân Ludlow yn chwilio am gyfansoddwyr ifanc, rhwng 16 a 25 oed, sy'n byw unrhyw le yn y DU, sy'n wynebu rhwystrau ariannol i'w hymarfer cerddorol, i gymryd rhan mewn gweithdy am ddim, â threuliau wedi'u talu, gyda'r cyfansoddwr blaenllaw Julian Philips yn Birmingham ym mis Medi eleni.
Mae'r gweithdy yn gyfle i archwilio cân Saesneg: cerddoriaeth ar gyfer llais a phiano gyda thestun yn yr iaith Saesneg.