• English
  • Cysylltwch â Ni
  • English

Y Gronfa Lansio 2024

Nod Cronfa Lansio yw helpu bandiau / artistiaid talentog o Gymru i hybu eu gyrfa drwy roi llwybr hollbwysig at gyllid iddynt. Gall artistiaid, bandiau neu labeli wneud cais.

Mae'r Cronfa Lansio, fel mae’r enw'n awgrymu, ar gyfer y rhai sy’n dechrau ar eu taith gerddorol, sef cam hollbwysig yn eu datblygiad. Mae hefyd yn helpu i gefnogi gweithgareddau a fydd yn helpu rhai sy’n creu cerddoriaeth gyflawni eu potensial

Mae Horizons yn chwilio am artistiaid/bandiau sy’n gallu arddangos diddordeb gan gynulleidfaoedd a’r rhai sy’n gweithio yn y diwydiant cerddoriaeth (yn cynnwys labeli neu feirniaid), ond sydd angen cymorth i’w galluogi i gyflawni gweithgarwch a fydd yn eu helpu i gyrraedd eu cynulleidfa.

Mae Cronfa Lansio Horizons yn cynnig grantiau o hyd at £2,000 yr un.

Dysgwch fwy am y Gronfa Lansio yma.

Gwnewch gais am y Gronfa Lansio yma.