Help Musicians - Sgiliau Busnes i Gerddorion
Fel cerddor, rwyt ti’n gorfod ymdrin â sawl agwedd ar dy yrfa — rheoli dy gyfryngau cymdeithasol dy hun, delio â chontractau a chyllid, rheoli prosiectau ar gyfer dy rhyddhau cerddoriaeth a threfnu teithiau, a llawer mwy.
Dysga sut i reoli a gwneud y gorau o’r tasgau ychwanegol hyn er mwyn gwthio dy yrfa ymlaen drwy sesiynau ar-lein rhad ac am ddim gan Help Musicians:
Cynllunio Ariannol mewn Cerddoriaeth - 7 / 10 / 2024 (Sesiwn yn rhedeg o 6pm - 7pm)
Yn y sesiwn hon, byddi di’n dadansoddi hanfodion creu a rheoli cyllideb prosiect ac yn cael cyngor ar ddelio ag incwm anrhagweladwy. Byddi di’n dysgu beth sy’n werth gwario arno pan mae arian yn brin a sut i gynllunio ar gyfer sefydlogrwydd ariannol.
Cyflwyniad i Gyhoeddi Cerddoriaeth - 4 / 11 / 2024 (Sesiwn yn rhedeg o 6pm - 7pm)
Yn y sesiwn hon, byddi di’n dadansoddi rôl cyhoeddwyr cerddoriaeth a sefydliadau rheoli ar y cyd (CMOs), gan esbonio sut maen nhw’n gweithio a beth maen nhw’n ei gynnig i greawdwyr cerddoriaeth. Byddi di hefyd yn cael cyflwyniad i gytundebau cyhoeddi cerddoriaeth ac yn dysgu sut mae arian yn llifo o ddefnydd cân yn ôl at yr awdur.
Gwneud Arian o Fasnachfraint - 2 / 12 / 2024 (Sesiwn yn rhedeg o 6pm - 7pm)
Yn y sesiwn hon, bydd Andy Allen, Prif Weithredwr BSI Merch, yn rhannu cyngor arbenigol ar greu, cynhyrchu a gwerthu nwyddau sy’n taro deuddeg gyda dy gynulleidfa. O ddylunio i e-fasnach, byddi di’n dysgu sut i wneud y mwyaf o dy werthiannau masnachfraint ac i dyfu dy frand.
Dysga mwy a chofrestrwch ar gyfer y sesiynau hyn yma.